Trosolwg o’r rôl a beth mae’n ei olygu: Rwy'n rheoli tîm o dros 50 o wyddonwyr a thechnegwyr sy'n cyflawni gwaith dadansoddi cemegol a microbiolegol ar samplau dŵr glân ar gyfer Dŵr Cymru a nifer o awdurdodau lleol. Mae fy nhîm yn gweithio ar ddau safle, yng Nghasnewydd a Bretton (ger Caer), ac mae gennym ni rai o gyfleusterau labordy gorau’r wlad sy’n defnyddio’r technegau a’r offer diweddaraf. Rydyn ni’n dadansoddi mwy na 100,000 o samplau y flwyddyn o afonydd, llynnoedd, gweithfeydd trin, cronfeydd storio a thapiau cwsmeriaid. Rydyn ni’n cynhyrchu dros 1.2M o ganlyniadau y flwyddyn, oll wedi eu hategu gan system ansawdd helaeth sy’n cael ei harchwilio, ac mae ein labordai’n agored bob dydd o’r flwyddyn.