Hygyrchedd
Hygyrchedd

Mehefin 2020 - Fis Pride

Mae hi'n amhosibl i mi ysgrifennu am Fis Pride heb ystyried y protestiadau gwrth-hiliaeth sy'n digwydd ar hyn o bryd. Fel miloedd o bobl eraill, rydw i wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn llawn arswyd wrth wylio’r newyddion am farwolaethau Breonna Taylor, Ahmaud Arbery a George Floyd. Fel miliynau o bobl eraill, rydw i wedi bod allan ar y strydoedd yn protestio'r wythnos hon, ac wedi bod yn meddwl am y pethau sy'n debyg rhwng protestiadau #MaeBywydauDuOBwys a Pride. Mae'r ffaith fod y protestiadau hyn wedi digwydd ar ddechrau Mis Pride yn ein hatgoffa ni taw protestio, a'r frwydr dros gydraddoldeb, sydd wrth wraidd Pride hefyd.

Er bod dathlu pwy ydw i, a'r cynnydd a wnaed, yn rhan bwysig o Pride, mae hi'n gyfle hefyd i ni gofio faint o waith sy’n dal i fod o'n blaenau.

Rwy’n eithriadol o ffodus o gael byw yn agored, a bod yr hawl i gael fy nhrin yn gyfartal wedi ei ddiogelu gan y gyfraith. Ond yn anffodus, nid yw miloedd o bobl LHDT+ yn rhannu'r un hawliau â mi. Mae cyfathrach rywiol breifat rhwng pobl o'r un rhyw yn drosedd mewn 73 o wledydd o hyd, ac yn 12 o'r gwledydd hynny rhoddir dedfryd o farwolaeth am gyfunrywioldeb. Hyd yn oed yn America, sef "arweinwyr y Byd rhydd", mae hi'n hollol gyfreithlon diswyddo rhywun am fod yn hoyw mewn 32 o daleithiau.

I mi yn bersonol, rwy'n dal i feddwl ddwywaith cyn dal llaw fy ngwraig yn y stryd – os ydyn ni allan o gwmpas y lle, yn enwedig gyda'n mab ifanc, dwi bob amser yn asesu pa mor ddiogel ydyn ni. Mae bod yn LHDT+ yn golygu peidio byth â bwcio gwyliau heb edrych ar y cyfreithiau ar rywioldeb yn y wlad o dan sylw; sy'n golygu na chawn ni fynd i lefydd fel Dubai a Rwsia. Efallai nad yw'r gwledydd hynny'n sioc i chi, ond gallai fod yn fwy o syndod clywed bod Barbados, Saint Lucia, Malaysia, Jamaica, yr Aifft ac ynysoedd y Maldives yn rhy beryglus i ni hefyd.

Mae’r cynnydd yn pallu, neu hyd yn oed yn mynd am yn ôl mewn sawl ffordd. Mae arolwg diweddar o 140,000 o bobl ar draws Ewrop yn dangos bod 43% o holl bobl LHDT+ Ewrop wedi dioddef gwahaniaethu yn ystod y 12 mis diwethaf, o gymharu â 37% yn 2012.

Rwy'n un o'r 43%. Er fy mod i'n ‘pasio’ fel rhywun syth, dim ond ychydig wythnosau nôl – ynghanol y pandemig  Covid-19 – ymosododd rhywun arna'i ar y stryd. Sgrechiodd arna’i gan ddweud wrtha’i "frysio a mynd i ladd fy hun". Yn y gorffennol, mae pobl wedi ymosod arna i'n gorfforol ac wedi poeri arna'i. Dwi hyd yn oed wedi cael plentyn ifanc, ar ei ben ei hun, yn gweiddi pethau difrïol. Mae hi'n gywilyddus ac yn gallu bod yn frawychus. Ond ni fyddaf i'n ildio i adael i gulni pobl eraill newid fy mywyd i.

Ond mae yna ddigonedd o bethau positif hefyd. Wrth i mi ysgrifennu hyn, mae hi'n galondid anferth i mi gael gweithio dros sefydliad blaengar a chynhwysol sy'n cymryd camau breision i fod yn fwy cynhwysol byth. Rwy'n un o wyth Cennad Cynhwysiant sydd wedi cael eu penodi i helpu gyda hyn trwy bledio'r achos, addysgu cydweithwyr, adolygu polisïau a’r dogfennau sy’n llywio diwylliant y gweithle, a chlustnodi meysydd lle gallai’r busnes wella ei ymdrechion i feithrin diwylliant o barch y naill at y llall lle mae pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith, a chael yr un cyfle i lewyrchu.

Rwy'n hynod o gyffrous am y cyfleoedd sydd o'n blaenau ni - rydyn ni wedi lansio ein rhwydwaith o Gynghreiriaid LHDT+ i weithwyr trwy Yammer, ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn blatfform gwych  sbarduno newid go iawn.

Ond i mi, mae Mis Pride am gofio faint yn fwy o gynnydd y mae angen ei wneud. Fel y mae'r mudiad #MaeBywydauDuonOBwys yn ei ddangos, mae tipyn o ffordd o'n blaenau o hyd yn y frwydr dros gydraddoldeb. Cynghreiriaid ydyn ni i gyd. Ac mae angen i ni i gyd wneud rhagor.