Datganiad i'r Wasg

5 Mai, 2021

Dŵr Cymru'n cynnig porth cynnil at gymorth arbenigol i'r rhai sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig

Mae porth cynnil a fydd yn helpu pobl sy'n dioddef trais yn y cartref i gael cymorth a chyngor arbenigol wedi cael ei ychwanegu at waelod holl dudalennau gwe Dŵr Cymru.

Yn ôl ystadegau gan heddluoedd Cymru a Lloegr, bu cynnydd o 7% yn nifer yr achosion o gamdriniaeth ddomestig yr haf diwethaf, gyda Heddlu Dyfed Powys yn derbyn 900 adroddiad am drais yn y cartref ym mis Awst o gymharu â 350 digwyddiad y mis yn 2017.

Mae Dŵr Cymru, sef yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn cefnogi'r fenter 'Mannau Diogel Ar Lein' mewn ymdrech i gynorthwyo dioddefwyr.

Mae'r cwmni wedi ychwanegu botwm cynnil ar waelod holl dudalennau ei wefan. Mae'r botwm yn cyfeirio'r defnyddwyr at gymorth arbenigol am gamdriniaeth ddomestig. Gall dioddefwyr gyrchu cyfeiriadur o wasanaethau a llinellau cymorth arbenigol, llenwi holiadur i asesu pa mor ddiogel yw eu perthynas, a chyrchu gwybodaeth am drais rhywiol, stelcian ac aflonyddu.

Gellir defnyddio'r dechnoleg, a ddatblygwyd gan y Post Brenhinol, yn hyderus gan wybod na fydd y dudalen yn ymddangos yn yr hanes pori ar y rhyngrwyd, ac mae modd gadael y dudalen ar unwaith os oes angen i ddioddefwyr gau'r dudalen yn gyflym. 

Dywedodd Martin Driscoll, Cyfarwyddwr Pobl a'r Gweithlu “Mae diogelwch a lles ein cwsmeriaid a'n gweithwyr wrth galon popeth a wnawn yn Dŵr Cymru. Mae camdriniaeth ddomestig yn gallu gadael rhywun wedi eu hynysu'n llwyr, ac rydyn ni am wneud popeth y gallwn ni i helpu dioddefwyr a'i gwneud mor hawdd â phosibl iddynt gyrchu'r cymorth sydd ei hangen arnynt.

“Mae cynnwys linc i'r porth Mannau Diogel Ar Lein ar ein gwefan yn helpu i gynyddu nifer y cyfleoedd sydd yna i ddioddefwyr gyrchu cymorth proffesiynol yn ddiogel. Rydyn ni'n falch o allu cynnig y cyfleuster yma i unrhyw un sy'n ymweld â'n gwefan”


Mae'r porth Mannau Diogel Ar Lein ar gael trwy dwrcymru.com