Vaisakhi

Siciaeth yw un o grefyddau ifancaf y byd, am y cafodd ei sefydlu ychydig dros 500 mlynedd yn ôl. Crefydd un ffydd yw hi ac ystyr y gair 'Sikh' yw 'dysgwr'.

Simran Kaur (hi)

Hyfforddai Graddedig ym maes y Gwyddorau Data

Pam mae'r Siciaid yn dathlu Vaisakhi?

Vaisakhi yw'r ŵyl sy'n dathlu sefydlu'r gymuned Sicaidd, y Khalsa (“rhyddid rhag”). Mae ei sefydliad yn achlysur allweddol yn hanes Siciaeth. Dathlwyd Vaisakhi ar 13 Ebrill 2021 eleni, ac roeddwn i am ysgrifennu'r erthygl hon i godi ymwybyddiaeth am hanes yr ŵyl.

Mae'r Siciaid yn credu bod Duw yn un, ac nad oes unrhyw ffurf, rhyw, crefydd na hil ganddo. Y Guru Nanak oedd sylfaenydd Siciaeth ac mae Siciaid yn dysgu am Dduw trwy ei ddysgeidiaeth ef. Sefydlwyd y Khalsa panth cyntaf yn Ebrill 1699. ‘Panj Pyare’ neu'r ‘Pump Annwyl’ oedd aelodau cyntaf Khalsa. Pwrpas Khalsa yw brwydro yn erbyn unrhyw fath o orthrwm, ddylem ni byth eistedd nôl heb ddweud dim, dylem gynnig help llaw neu glust i wrando.

Beth mae'r Panj Pyare yn ein dysgu ni?

Mae enwau'r Panj Pyare'n adlewyrchu gwerthoedd a dysgeidiaeth y Siciaid:

Yn unol â'r gwerthoedd hyn, rhoddwyd enwau brenhinol i Khalsa: Singh (gwrywod) a Kaur (benywod) i ddileu unrhyw fath o ddosbarth a hierarchaeth o fewn y gymdeithas. Nid oes unrhyw ddosbarth na lliw gan Khalsa a'i ddysgeidiaeth yw cynnal rhyddid i bawb, sicrhau cydraddoldeb waeth fo lliw, credo neu ryw rhywun, a sicrhau bwyd, dillad, iechyd ac addysg i bawb. Mae Vaisakhi felly’n ddiwrnod o bwys i Siciaid am taw hwn oedd yr adeg pan ganed Siciaeth fel ffydd dorfol.

Sut mae Siciaid yn dathlu Vaisakhi?

  • Gŵyl y gwanwyn yw Vaisakhi sy'n disgyn ar 13 neu 14 Ebrill bob blwyddyn.
  • Ar Vaisakhi, mae'r Siciaid yn ymweld â'r Gurdwara yn y bore. Lle i'r Siciaid ymgynnull ac addoli yw'r Gurdwara.
  • Mae gan Gurdwaras bedwar drws sef drws heddwch, drws bywoliaeth, drws dysg a drws gras. Mae'r pedwar drws yma'n symbol bod croeso i bobl o bedwar pwynt y cwmpawd, a bod yna groeso i unrhyw un o unrhyw ffydd.
  • Mae yna orymdaith (o'r enw ‘Nagar Kirtan’) trwy'r strydoedd gyda llawer o ganu, llafarganu a dillad lliwgar.
  • Gyda'r nos, mae'r Siciaid yn mwynhau pryd o fwyd gyda'u teulu a'u ffrindiau.
  • Gŵyl y cynhaeaf oedd y Vaisakhi yn y Punjab yn wreiddiol nes iddi ddod yn ŵyl bwysicaf y Siciaid.
  • Yn 2022, bydd Vaisakhi’n disgyn ar ddydd Iau, 14 Ebrill.