Hygyrchedd
Hygyrchedd

Dŵr Cymru yn y Gymuned

Ry’n ni'n gweithio gydag ysgolion i annog plant i garu a gwerthfawrogi dŵr.

Mae ein gweithgareddau, sy'n cael eu harwain gan athrawon ar secondiad, yn paratoi'r disgyblion i fod yn ddinasyddion byd-eang, â dealltwriaeth am gynaliadwyedd ac effaith hyn ar eu cymuned leol. Mae miloedd o ddisgyblion yn ymweld ag un o'n pedair Canolfan Ddarganfod bob blwyddyn ac yn cael amser bendigedig - ac mae'r cyfan AM DDIM!

Ymweld â'n Canolfannau

Dewch y tu ôl i'r llenni i weld sut ry’n ni'n darparu dŵr diogel a glân ar eich cyfer, a sut rydyn ni'n trin dŵr gwastraff er mwyn cadw ein hafonydd a'n traethau yn lân.

Bydd ein hathrawon cymwysedig a phobl sy'n gweithio yn y diwydiant yn eich helpu chi i ddarganfod eich rôl wrth reoli dŵr mewn ffordd gynaliadwy ac yn rhoi awgrymiadau i chi am ffyrdd o ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon a helpu'r amgylchedd.

Ein Hymweliadau ag Ysgolion

Bydd ein tîm addysg arobryn yn ymweld â'ch ysgol neu'ch coleg ac yn arwain gwasanaeth a fydd yn addysgu'r plant am bopeth sy'n ymwneud â dŵr! Sut ry’n ni'n ei gasglu, yn ei drin, yn ei ddefnyddio ac yn ei lanhau.

Athrawon ar secondiad sy'n arwain ein gweithdai rhyngweithiol ac maen nhw’n addysgu'r plant trwy wersi creadigol sy’n taclu'r plant i fod yn genhadon dŵr, â dealltwriaeth am y newid yn yr hinsawdd, a negeseuon cymunedol a busnes Dŵr Cymru.

I glywed rhagor am beth y gallwn ni ei gynnig i ysgolion, ewch i’n gwefan gorffoeaethol.

Y Gronfa Gymunedol

Sefydlwyd Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru i hybu ymdrechion ein cydweithwyr wrth godi arian at achosion da a'u gwaith yn y gymuned.

Mae'r fenter yn golygu y gall cydweithwyr sy'n codi arian at achosion da ddenu cyllid cyfatebol gwerth hyd at £200 y person - neu hyd at £500 am dimau o bedwar neu fwy o bobl - am eu hymdrechion.

Yn ogystal, er mwyn annog a chynorthwyo gwaith er lles y cymunedau a wasanaethwn, gall y Gronfa ddyfarnu hyd at £1,000 y prosiect mewn ardaloedd lle mae ein gwaith wedi effeithio ar y gymuned.  Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen ein Cronfa Gymunedol ar ein gwefan gorfforaethol.