Hygyrchedd
Hygyrchedd

Cwestiynau Cyffredin

Faint o amser ymlaen llaw mae angen i mi ymgeisio?
Gorau po gyntaf. Ar adegau penodol o'r flwyddyn, mae llawer o geisiadau am leoliadau profiad gwaith yn dod i mewn. Felly, os nad yw eich dewis cyntaf ar gael, bydd hyn yn rhoi’r amser i ni  chwilio am ddewis arall.

Pryd gallaf i wneud profiad gwaith?
Gallwch gyflawni profiad gwaith yn unrhyw fis o'r flwyddyn, ac mae lle ar y ffurflen gais i chi nodi'r adeg benodol sydd gennych mewn golwg.

Pryd caf i glywed os ydw i wedi bod yn llwyddiannus?
Rydyn ni'n anelu at roi gwybod i chi a oes modd darparu ar gyfer eich cais ai peidio cyn pen deg diwrnod gwaith.

Pwy ddylwn i gysylltu â nhw os oes angen cymorth arnaf gyda'r ffurflen gais?
Os oes unrhyw gwestiynau gennych am y ffurflen gais, cysylltwch â'n tîm Datblygu Dawn trwy e-bostio dcww.l&d@dwrcymru.com

Gaf i wneud cais os ydw i o dan 18 oed?
Cewch. Rhaid i chi fod dros 14 oed, ond nid oes terfyn uchaf o ran oedran.

A fyddwch chi'n talu fy nghostau?
Na fyddwn. Ni allwn ad-dalu unrhyw gostau. Byddwn ni'n ceisio gosod eich profiad gwaith mor agos â phosibl at lle’r ydych chi’n byw bob tro er mwyn cadw'r costau'n isel.

A gaf i wneud cais am brofiad gwaith os nad ydw i'n byw yn y DU?
Dim ond gan bobl sydd eisoes wedi cael yr hawl i weithio yn y DU y gallwn dderbyn ceisiadau.

Beth ddylwn i ei wisgo ar gyfer fy lleoliad profiad gwaith?
Gwisg smart anffurfiol yw'r drefn. Ar brofiad gwaith gweithredol, bydd angen i chi wisgo esgidiau cadarn â blaen dur. Os oes unrhyw ofynion penodol, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.

Am faint bydd y profiad gwaith yn para?
Mae'r profiad gwaith yn para wythnos neu ddwy fel rheol, ond y mwyafrif a ganiateir i un person yw 20 diwrnod.

Beth yw oriau'r lleoliad profiad gwaith?
Bydd y rhan fwyaf o'n lleoliadau profiad gwaith yn dilyn oriau busnes arferol, sef 09:00-17:00, dydd Llun i ddydd Gwener.