Hygyrchedd
Hygyrchedd

Adborth ar Brofiad Gwaith

Ymunodd Siobhan â ni i gyflawni lleoliad gydag amrywiaeth o dimau, gan gynnwys ein tîm mapio daearyddol. Dywedodd Siobhan:

“Mae lefel y manylder a'r wybodaeth sy'n caniatáu i'r system ddata weithio'n anhygoel. Pan oeddwn i yno, fe esbonion nhw beth roedd y gwahanol ddarnau bach o bob adran yn eu gweithio a helpodd y system fapio a'r ffeithluniau fi i ddeall pa mor gysylltiedig y mae gwahanol rannau o'r piblinellau â'i gilydd. Fe ddysgais i sut mae'r adran fodelu'n helpu i ddarogan llifogydd yn achos diffygion ac a ddylid rhoi caniatâd i ddatblygwyr newydd neu beidio. Roedd hi'n waith dwys am ddyddiau, ond rwy'n ddiolchgar amdano. Diolch arbennig i'r tîm cyfan am y byddaf i'n sicr o ddefnyddio’r wybodaeth yn fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol, ac o bosibl yn fy ngyrfa yn y dyfodol.”

 

Ymunodd Gwion â ni a threuliodd ychydig o amser gyda'n tîm Gwyddoniaeth yn y gogledd. Yn dilyn ei leoliad, dywedodd Gwion:

“Roedd diddordeb mawr gen i mewn nifer o'r pethau y gwelais i yn ystod fy amser yno, er enghraifft sut roedd dŵr yn cael ei drin yn y gweithfeydd. Fe ddysgais i lawer iawn am beth sy'n digwydd i'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio pob dydd, cyn ac ar ôl iddo gyrraedd y gymuned, gan gynnwys yr holl wahanol adrannau a beth maen nhw'n ei wneud. Fe fwynheais i'r wythnos yn fawr iawn a hoffwn ddiolch staff adran Dinas am eu hamser.”

 

Ymunodd Isobel â'n tîm Amgylcheddol a Gwyddoniaeth. Dywedodd Isobel:

“Fy mhrif nod oedd cael gwell dyfnder gwybodaeth am beth sy'n digwydd yn Dŵr Cymru a dysgu ychydig bach am rai o'r rolau unigol. Bu'n brofiad gwych, yn enwedig am y cefais i beth dealltwriaeth am sut y mae sefydliad mawr rydym ni i gyd yn dibynnu gymaint arno ac yn ei gymryd yn ganiataol yn gweithio. Rwy'n gweld hyn yn fy helpu yn y dyfodol am i mi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel rheoli amser, cyfrifoldeb, gwaith tîm, dysgu'n annibynnol a chyfathrebu.”

 

Dywedodd Anthony Lunn, myfyriwr Peirianneg Trydanol o Brifysgol Caerdydd, a ymunodd â'n tîm Cyflawni Cyfalaf yng Nghaerdydd yn ddiweddar:

“Cynorthwyodd y lleoliad gwaith yma fi i sicrhau gwell dealltwriaeth am sut mae'r cwmni'n gweithredu, y safonau y mae angen eu cynnal, a rhai o'r sialensiau y mae'r cwmni'n eu hwynebu o ddydd i ddydd. Yn y dyfodol, rwy'n credu y bydd hyn yn cynorthwyo fy nealltwriaeth am sut mae cwmnïau mawr yn gweithio, a beth sydd ei angen er mwyn llwyddo o fewn cwmnïau o'r fath. Cynyddodd fy ngwybodaeth hefyd am sut beth yw gweithio mewn amgylchedd swyddfa ac fel aelod o dîm mewn amgylchedd corfforaethol. Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi'r profiad ac rwy'n ddiolchgar dros ben am y cyfle ac i bawb a roddodd o'u hamser i siarad â fi a rhannu gwybodaeth am eu gwaith, ac am estyn croeso i mi.”

 

Ymunodd Katie-May Davies â'n tîm yng Nghaernarfon, ac meddai:

“Tan fy wythnos o brofiad gwaith gyda Dŵr Cymru, nid oedd syniad gen i faint o waith sy'n mynd i ddarparu dŵr diogel a glân a chael gwared ar yr holl ddŵr gwastraff o'n cartrefi, ein hysgolion, ein hysbytai a'n busnesau. Nawr rwy'n glir iawn am beth fydd fy nod mewn bywyd a'm llwybr gyrfaol. Rwy'n bwriadu gweithio mor galed ag y gallaf i ennill y cymwysterau angenrheidiol i wneud cais i ymuno â'r tîm o bobl yn Dŵr Cymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i holl staff Dŵr Cymru am roi o'u hamser ac am fynd i'r drafferth i esbonio'r llu o dasgau a gweithdrefnau, a'u profiadau a'u gwybodaeth â mi. Agorodd hyn fyd cyfan i mi. Rydw i mor ddiolchgar i bawb.”