Hygyrchedd
Hygyrchedd

Awst 2020 - Wythnos Ymwybyddiaeth Bwydo ar y Fron

Yma yn Dŵr Cymru rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o barch rhwng pobl lle gall pawb fod yn nhw eu hunain yn y gwaith, chael yr un cyfleoedd i lewyrchu. Rydyn ni'n credu mewn gwneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a'r cwmni.  Rydyn ni wedi ymrwymo i addewid o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a thrin eraill ag urddas a pharch bob amser.

Ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth a sbarduno gweithredu ar themâu sy'n gysylltiedig â bwydo ar y fron yw Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd. Thema 2020 yw “Cefnogi bwydo ar y fron i greu planed fwy iach.”

Mae Nkechi'n un o'n cenhadon cynhwysiant ac mae'n cymryd yr amser yma i rannu ei phrofiad o ddychwelyd i'r gwaith ar ôl geni ei phlentyn.

Dyma stori Nkechi ... 

“Rwy'n gweithio fel Dadansoddwr Masnachol yn nhîm Masnachol BIS, ac rydw i wedi bod yn gweithio dros Ddŵr Cymru ers 2016. Rwy'n helpu gyda nifer o gontractau er mwyn caffael cynnyrch a gwasanaethau TG am bris da a dan amodau cystadleuol.

Fel mam newydd, mae dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb mamolaeth yn gallu bod yn gyffrous, yn llethol, yn ddigon i'ch drysu ac yn frith o bob math  o deimladau eraill.  Roeddwn i'n ffodus o gael fy mam gyda mi am y 6 mis cyntaf, felly fe gymerais i'r 'cam mawr' o ddychwelyd i'r gwaith ar ôl cwta 3 mis.  Roeddwn i'n awyddus i ddychwelyd i'r gwaith ac roeddwn i'n edrych ymlaen yn fawr at gael sgwrsio gydag oedolion a chael trefn ar fy mywyd eto. Roedd yna nosweithiau digwsg (ac ry'n ni'n dal i'w cael nhw) ond fe gofleidiais i'r cyfnod newydd yma fel mam newydd yn frwd. Roedd fy mywyd i'n teimlo'n llawn, ac roeddwn i'n synnu pa mor gyflym y llwyddais i i addasu. Roeddwn i'n hiraethu am waith y tu hwnt i'r cartref (ie, swydd yw hi) a'r annibyniaeth roedd hynny'n ei roi i mi.

Roeddwn i'n poeni am godi'r mater gyda fy rheolwr llinell ar y cychwyn, rhag ofn iddi hi ddweud nad oedd polisi o’r fath yn bodoli. Mae canfyddiadau arolwg NCT a gyflawnwyd yn 2008 yn dangos bod agweddau pobl a'r berthynas rhwng y gweithiwr a'r rheolwr llinell yn hanfodol er mwyn dychwelyd i'r gwaith yn ddidrafferth. Ond pan siaradais i â hi am y mater, roedd fy rheolwr yn gefnogol dros ben a dywedodd bod modd darparu cyfleusterau i fenywod oedd am dynnu llaeth yn y gwaith neu fwydo o'r fron yn dawel bach. Roedd hi'n hollol gefnogol o fy mhenderfyniad i dynnu llaeth, ac anogodd fi i gymryd seibiannau rheolaidd i wneud hynny.

Roedd hi'n gymharol rwydd i mi roi addasiadau rhesymol ar waith trwy neilltuo awr y dydd i dynnu llaeth. Byddwn yn defnyddio'r ystafell cymorth cyntaf yn ystod yr awr yna, a chefais yr hawl i’w defnyddio’n ddyddiol. Roeddwn i 'ar-lein' yn ystod y cyfnod hwnnw felly fe ddewisais i weithio wrth dynnu llaeth. Nid oedd unrhyw bryderon gan fy rheolwr am fy newis i weithio yn ystod yr awr yna, a gofynnodd i mi'n gyson a oeddwn i'n ddigon cyfforddus, neu a oedd angen rhagor o amser arnaf i.

Fy rheolwr sy'n nabod y 'fi gwaith' orau, a chynorthwyodd fi i ddychwelyd i'r gwaith yn ddidrafferth, a gyda fy mhenderfyniad i dynnu llaeth yn y gwaith.  Ar hyn o bryd, mae yna bwyslais trwm ar les, gweithio hyblyg ac iechyd meddwl, a gwnaeth fy rheolwr yn siŵr fy mod i'n gallu cyrchu'r cyngor a'r rhifau cyswllt cywir bob amser.”

Mae gennym bolisi iechyd a diogelwch ar gyfer mamau newydd a beichiog i helpu rheolwyr a chynorthwyo ein cydweithwyr.