Cydgysylltydd Logisteg Argyfwng

Dyddiad: 28 Hyd 2026

Lleoliad: Abertawe, Cymru, GB, SA6 5BQ

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9296                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Logisteg
Cwmpas Cyflog £34,566.00 -£40,821.00 
Lleoliad South East Hub
Dyddiad cau ceisiadau 
Dydd Mercher 4 Tachwedd 2026 - 23:59

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Yn atebol i’r Rheolwr Logisteg Dŵr, mae’r swydd Cydgysylltydd Logisteg a Chynllunio Argyfwng yn gyfrifol am sicrhau bod llwyth gwaith dyddiol y tîm Logisteg Argyfwng yn cael ei gyflawni yn unol â rhwymedigaethau rheoliadol Dŵr Cymru (y Cyfarwyddyd Mesurau Diogelwch ac Argyfwng (SEMD) a Rheoliadau Ansawdd Dŵr). Mae’r swydd hefyd yn cynnwys cynorthwyo elfennau ehangach y tîm Cynllunio Argyfwng a Diogelwch, gan gynnwys cyswllt /cynrychiolaeth rhanddeiliaid, cydgysylltu asesiadau risg diogelwch safle, llywodraethu dŵr potel a chyfrannu at derfynau amser / cerrig milltir rheoliadol yn rhan o’r Ymgymeriadau Cyfnod Rheoli Asedau 8 SEMD. Hefyd, ceir gofyniad i gymryd rhan mewn rota wrth gefn y tu allan i oriau arferol i sicrhau y gall y tîm ymateb i broblemau sy’n codi bob awr o bob dydd.

  

Cyfrifoldebau allweddol y swydd:

 

  • Trefnu a monitro gweithgareddau dyddiol technegwyr Logisteg Argyfwng gan gynnwys defnyddio / casglu offer, ac archwiliadau offer dyddiol / wythnosol
  • Sicrhau bod yr holl weithgareddau logisteg a chynnal a chadw argyfwng yn cael eu cyflawni yn unol â phrosesau System Rheoli Integredig ac mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol a chynaliadwy
  • Sicrhau bod pob cerbyd a gyrrwr yn bodloni gofynion ein Trwydded Weithredwyr (arolygiadau, archwiliadau dyddiol, hysbysu am ddiffygion a’u trwsio, rheoli canolfannau gweithredu ac ati) i liniaru unrhyw risg reoliadol.
  • Cynorthwyo gyda’r gynrychiolaeth gywir o ddata trwy fonitro symudiadau tanceri o’r depo ac yn ôl (gan sicrhau cywirdeb cost).
  • Ymateb yn briodol i fethiannau Ansawdd Dŵr, gan sicrhau bod prosesau yn cael eu dilyn i osgoi defnyddio dŵr halog - cadarnhau bod tanceri methedig yn VOR
  • Cyfrifoldeb goruchwylio Iechyd a Diogelwch i bawb sy’n ymwneud â chyflawni gweithgareddau logisteg a chynnal a chadw argyfwng yn yr ardal weithredu ddaearyddol, gan gynnwys gweithluoedd uniongyrchol ac is-gontract
  • Cynorthwyo gwaith rheoli cyflenwad EP a chaffael ac argaeledd pecynnau SEMD
  • Cynorthwyo’r tîm yn ystod digwyddiadau, gan gynnwys cynrychiolaeth TCG, casglu gwybodaeth ar gyfer adrodd i randdeiliaid, cynorthwyo timau Arian
  • Cymorth gyda dogfennau ymateb yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) a chasglu tystiolaeth ar gyfer cerrig milltir adrannol
  • Archwilio prosesau, arferion a dogfennau yn rhagweithiol i nodi gwendidau.
  • Gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio / cymorth i gydweithwyr eraill ym maes Logisteg Argyfwng ac unrhyw yrwyr contract.
  • Monitro’r ardal weithredu i sicrhau’r gost isaf o wasanaeth o ran effeithlonrwydd gweithredu
  • Paratoi cynlluniau tancer ac asesiadau risg ar gyfer safleoedd tanceru yr ymwelir â nhw yn rheolaidd
  • Cysylltu â’r tîm cydymffurfiad i sicrhau bod ansawdd a chlorineiddio dŵr tancer yn cael eu cwblhau’n gywir
  • Sicrhau bod yr holl gofnodion angenrheidiol yn cael eu cadw gan fodloni archwiliadau rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
  • Cynorthwyo gyda rheoli contract tanceru allanol
  • Cymryd rhan mewn rota wrth gefn y tu allan i oriau swyddfa ac o fewn patrwm gweithio (byddwn hwn yn cael ei benderfynu gan alw – dydd Llun i ddydd Gwener 7am - 7pm

Amdanoch chi

Mae’r canlynol yn ofynion hanfodol ar gyfer recriwtio i’r swydd:

 

 

•    Cymhwyster ffurfiol (Tystysgrif Genedlaethol Uwch neu uwch) neu brofiad cyfatebol.

•    Profiad profedig o gydgysylltu gweithgareddau dŵr amgen ar safleoedd ac yn y depo

•    Profiad gyda gweithrediadau logisteg ymatebol a’r broses lywodraethu i sicrhau cydymffurfiad

•    Profiad o ddeddfwriaeth berthnasol (SEMD 2022 & rheoliadau Ansawdd Dŵr 2016) a gweithredu’r rhain mewn lleoliad ymarferol

•    Profiad o grynhoi data a gwybodaeth i fodloni gofynion adrodd rheoliadol

•    Profiad o reoli digwyddiadau

•    Gwybodaeth ragorol am drafnidiaeth a fflyd gan ddiogelu  drwy hynny Trwydded Weithredwr DCWW (gofyniad statudol i weithredu fflyd Cerbydau Nwyddau Trwm)

•    Gwybodaeth am Ganllawiau Dŵr Amgen y DWI ac OFWAT

•    Sgiliau rhyngbersonol da e.e. datblygu perthynas, gwrando’n effeithiol ar eraill

•    Brwdfrydedd amlwg i sicrhau canlyniadau – yn dangos diddordeb a gallu i ddysgu pethau newydd, yn cymryd y cam cyntaf, yn croesawu problemau fel heriau, yn dod o hyd i atebion i broblemau

•    Sgiliau datrys problemau a chyfathrebu rhagorol

•    Parodrwydd i ddysgu a datblygu mewn tîm perfformiad uchel

•    Sgiliau TG gan gynnwys pecynnau Microsoft Office

•    Trwydded yrru gyfredol a llawn y DU

•    Gallu i weithio’n hyblyg 

 

Werth ei wybod

Car allowance provided

There will be a requirement to participate in standby rota

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:


    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 


Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.


Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

 

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

 

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

 

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.