Cymorth Contract Technoleg Weithredol

Dyddiad: 17 Tach 2026

Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9529                                                                             
Math o Waith 12 Mis
Swyddogaeth y Swydd TG
Cwmpas Cyflog £28,065.00 -£31,887.00 
Lleoliad South East Hub
Dyddiad cau ceisiadau 
Dydd Sul, 29 Tachwedd 2026 - 23:59

Yr hyn y byddwch chi'n gyfrifol amdano

 

Rheoli contractau a chymorth ariannol yn brydlon i'r adran Technoleg Weithredol. Bydd hyn yn cynnwys:

 

  • Gweithio dan oruchwyliaeth gyffredinol y rheolwr llywodraethu ariannol a chontractau, ond bydd angen defnyddio barn annibynnol a menter mewn perthynas â chefnogi dyletswyddau rheoli contractau a meithrin perthnasoedd cyflenwyr Technoleg Weithredol allweddol trydydd parti.
  • Darparu cymorth ariannol a rheoli contractau i’r tîm Technoleg Weithredol mewn perthynas â chynlluniau a phrosiectau newydd a phresennol, wrth wneud hynny; sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau caffael ac ariannol yn cael eu cadw, yn unol â chynllun dirprwyo ariannol Dŵr Cymru.
  • Sicrhau bod busnes a chyflenwyr trydydd parti yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau Dŵr Cymru a chontractau/fframwaith, a chynnal cofnodion cysylltiedig, gan sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru yn unol ag addasrwydd cynlluniau rheoli contractau Technoleg Weithredol drwy gydol oes y contract.
  • Cynhyrchu adroddiadau gwybodaeth reoli ar berfformiad cyflenwyr trydydd parti i ddadansoddi data i lywio'r Rheolwr Contract/Caffael ar gyfer galluogi strategaeth gaffael, llwybr i'r farchnad a phenderfyniadau yn y dyfodol.
  • Olrhain archebion drwy system SAP / SRM Dŵr Cymru o'r sefydlu cychwynnol hyd at gwblhau'r broses anfoneb, gan ymgysylltu â chontractwyr a chyflenwyr lle bo angen.
  • Sicrhau bod cofnodion contractau'n cael eu cynnal a'u cadw'n gyfredol, gan sicrhau ardystiad yswiriant, achrediadau ISO, dogfennau polisi a systemau sicrhau ansawdd.
  • Hwyluso cyfarfodydd bilio/anfonebau bob pythefnos gyda chyflenwyr i ddatrys anghysondebau.
  • Mynychu a chadw cofnodion cyfarfodydd perfformiad y contract a rhoi mewnbwn o safbwynt bilio/anfonebau pan fo angen.
  • Ymgymryd â chaffael a phrynu gan ddefnyddio SAP, gan gynnwys monitro a chywiro anfonebau sydd wedi'u rhwystro ac wedi'u parcio'n amserol a chodi archebion i'r tîm.

 

Amdanoch chi 

 

Profiad

 

  • Profiad o weithio mewn rôl weinyddol (2+ mlynedd)
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office (Outlook, Word, Excel, ac ati)
  • Profiad o ddefnyddio SAP SRM neu systemau rheoli tebyg ar gyfer prynu
  • Sgiliau trefnu da gyda'r gallu i weithio dan bwysau a blaenoriaethu llwythi gwaith
  • Cyfathrebwr rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar

 

Gwybodaeth a Sgiliau

 

  • Yn gallu gweithio ar liwt eu hunain, ond yr un mor bwysig, adnabod eu terfynau a gwybod pryd i geisio cymorth
  • Y gallu i gynnal effeithiolrwydd gyda newidiadau mewn tasgau, cyfrifoldebau, pobl neu amgylcheddau sy'n newid
  • Dealltwriaeth o fanteision y busnes a'r realiti masnachol, o safbwynt y sefydliad a'r cwsmeriaid fel ei gilydd
  • Yr ysgogiad a'r gallu i gyfnewid gwybodaeth briodol â phobl berthnasol ar yr adeg iawn
  • Y parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am brosiectau neu faterion ac i fod yn atebol am eu hansawdd a’u cyflawni'n amserol
  • Y gred yng ngwerth synergedd; deall y rhan y byddwch yn ei chwarae yn y timau amrywiol rydych chi'n gweithio ynddynt a helpu pobl eraill bob amser i chwarae'r rhan honno yn ogystal â'ch rhan eich hun o fewn unrhyw dîm.

 

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:


    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 


Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.


Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

 

 

Pwy ydyn ni 

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.


Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.


Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.


Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.