Rheolwr Datblygu a Thwf

Dyddiad: 12 Hyd 2026

Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, Cf3 0LT

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9229                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau
Cwmpas Cyflog £47,492.00 -£54,618.00 
Lleoliad Linea
Dyddiad Cau 1 Tachwedd

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Fel Rheolwr Datblygu a Thwf, byddwch chi’n gyfrifol am arwain gweithgareddau sy'n ymwneud â phob ymgynghoriad ar gynlluniau datblygu ac ymgysylltu cynnar â rhanddeiliaid, megis Awdurdodau Lleol, Datblygwyr a Chwsmeriaid, yn unol â therfynau amser statudol. Byddwch hefyd yn arwain y gwaith o reoli ymateb y Cwmni i unrhyw newidiadau i ganllawiau a deddfwriaeth sy'n effeithio ar y ffordd rydym yn ymateb i ddatblygiadau a thwf newydd (h.y. newidiadau i ganllawiau ar ddiogelu'r amgylchedd), gan gynrychioli'r Cwmni yn fewnol ac yn allanol ar y Grwpiau Llywio perthnasol. Er mwyn gallu gwneud hyn, bydd angen i chi gydweithio â chydweithwyr ar draws y busnes, yn enwedig y rhai yn ein timau Asedau Dŵr a Dŵr Gwastraff, gan roi cyngor i'n cwsmeriaid a'u hysbysu am y cynnydd.

•1.    Sicrhau yr ymatebir i weithgaredd Cynllunio Ymlaen Llaw megis asesiadau safle cyn ymgynghori, ymatebion i gynlluniau datblygu ffurfiol, astudiaethau argaeledd tir ac unrhyw ymgysylltiad cynnar â chwsmeriaid datblygwyr o fewn y terfynau amser rheoleiddiol a statudol cydnabyddedig. 
•2.    Dylanwadu ar benderfyniadau buddsoddi gyda'r Busnes a hefyd y rhaglen ddatblygu gan ACLlau fel bod y ddau yn cyd-fynd ac yn y pen draw yn amddiffyn safle corfforaethol y Cwmni a'i wasanaeth i gwsmeriaid. 
•3.    Arwain yr ymateb i unrhyw newidiadau i ganllawiau (h.y. gan ein rheoleiddwyr) a allai effeithio ar y ffordd rydym yn ymateb i ddatblygiadau a thwf newydd. 
•4.    Yn unol a’ch cyfarwyddyd, byddwch yn rheoli'r data o Strategaeth a Gallu Asedau ac yn sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cael gwybod am y Cynlluniau Rheoli Asedau cyfredol ac yn y dyfodol, a hefyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y data asedau sydd ar gael ar hyn o bryd. 
•5.    Rheoli disgwyliadau gyda rhanddeiliaid allanol sy'n ymwneud â gweithgaredd cynllunio h.y. ACLl, llywodraeth, cyrff rheoleiddio; hyrwyddo swyddogaeth gynllunio fwy rhagweithiol a gwybodus. 
•6.    Ymgysylltu ag uwch-swyddogion mewn dros 30 o ACLlau i sicrhau eu bod yn deall dull y Cwmni o ymgysylltu yn ystod camau'r cynllun datblygu, ac i sicrhau eu bod yn cadw at ein cyngor.
•7.    Rheoli ymatebion y tîm pan fo angen darparu gwybodaeth ar gyfer astudiaethau dichonoldeb, modelau hydrolig ac astudiaethau cylch dŵr.
•8.    Pan fo angen, darparu cymorth a mewnbwn mewn perthynas ag unrhyw gwynion gan gwsmeriaid, yn ogystal â mentora cyd-aelodau o'r swyddogaeth Rheoli Datblygu.
•9.    Cydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau cyfredol iechyd a diogelwch drwy'r amser wrth gyflawni pob gweithgaredd.
•10.    Cyfrannu at adrodd ac adolygiadau misol, a chymryd rhan ynddynt.
•11.    Cydymffurfio â phrosesau a gweithdrefnau drwy'r amser wrth gyflawni pob gweithgaredd.
•12.    Cydweithredu ag aelodau eraill o'r tîm a chyflawni dyletswyddau eraill yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion y busnes. 

Amdanoch chi

Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol:
 
•    Addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfatebol mewn Daearyddiaeth Cynllunio Gwlad a Thref neu ddisgyblaethau amgylcheddol eraill.
•    Profiad helaeth yn y diwydiant dŵr a gwybodaeth gynhwysfawr am y swyddogaeth gynllunio. 
•    Sgiliau cyfathrebu da – ar lafar ac yn ysgrifenedig 
•    Profiad o reoli rhanddeiliaid 
•    Y gallu i weithio yn unol â therfynau amser rheoleiddio a phrosiectau tynn 

Werth ei wybod

Rôl hybrid yw hon, a bydd angen i chi ymweld â'r swyddfa tua dau ddiwrnod yr wythnos neu fwy, yn dibynnu ar anghenion neu ofynion y busnes.
 
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: Miriam Wasik-Evans Miriam.Wasik-Evans@dwrcymru.com a nodwch fanylion adnabod y swydd yn y llinell pwnc.
                                                
                                                
                

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:


    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 


Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.


Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.    

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.