Cogydd
Dyddiad: 19 Awst 2026
Lleoliad: Hwlffordd, Cymru, GB, SA62 4RR
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 8774 |
| Math o Waith | Parhaol (5 diwrnod yr wythnos) |
| Swyddogaeth y Swydd | Hamdden a Chroeso |
| Cwmpas Cyflog | £26,000.00 y flwyddyn (yn seiliedig ar 37 awr yr wythnos) |
|
Lleoliad Dyddiad Cau |
Llys y Fran, Sir Benfro (SA63 4RR) Ymgeisiwch cyn gynted â phosibl – byddwn yn adolygu ceisiadau yn wythnosol tan i’r swydd gael ei llenwi ag ymgeisydd priodol. |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Byddwch yn gweithio’n agos gyda Rheolwr y Caffi a Chogydd ychwanegol i sicrhau gweithrediad didrafferth cegin y caffi. Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o redeg y gegin, gan sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau uchel a bennwyd o hylendid bwyd a phroffesiynoldeb, tra’n gweini bwyd o ansawdd uchel i’n hymwelwyr, a baratowyd ac a goginiwyd ar y safle.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Paratoi, coginio a gweini prydau o ansawdd uchel i’r safon a nodir yn y gweithdrefnau ac yn unol â thargedau cost
- Cyfathrebu’n effeithiol â holl aelodau’r tîm
- Darparu gwasanaeth rhagorol i westeion
- Sicrhau bod yr holl weithdrefnau diogelwch bwyd yn cael eu dilyn ac y cydymffurfir â nhw, gan sicrhau bod y gegin yn ddiogel, wedi’i diheintio ac yn lân bob amser
- Dangos gwybodaeth gyflawn o bob bwydlen ac alergen bwyd
- Cynorthwyo gwaith cynllunio bwydlenni a digwyddiadau
- Cynorthwyo gydag archebu stoc i sicrhau bod lefelau stoc digonol yn cael eu cynnal ar gyfer y gwasanaeth
Amdanoch chi
Profiad Hanfodol
- Profiad o weithio mewn cegin brysur fel dirprwy gogydd neu gogydd
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Yn gallu darparu lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid
- Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda chwsmeriaid a chydweithwyr
Yn gallu bod yn drefnus a dilyn proses
Buddion
- Gweithio 5 o bob 7 diwrnod yr wythnos (rota yn cael ei gytuno un mis ymlaen llaw)
- Contract llawn amser 37 awr yn gweithio oriau blynyddol
- Mae’n rhaid gallu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol
- Bydd y swydd am bum diwrnod yr wythnos yn gweithio ar rota o ddydd Llun i ddydd Sul ag oriau posibl rhwng 8.30am a 6.00pm (i gwmpasu diwrnod gwaith hiraf posibl o 8 awr)
- Amrywiaeth o batrymau shifftiau ar gael, er y bydd angen i ymgeiswyr fod yn hyblyg i weithio ar ddiwrnodau gwaith a phenwythnosau
- Yn cychwyn cyn gynted â phosibl
- Bydd angen archwiliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y dyddiad cychwyn ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.
Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â: llysyfran@dwrcymru.com a rhowch rif adnabod y swydd [8774] yn y llinell pwnc.
Sylwer ei bod yn bosibl y byddwn yn cau’r swydd hon yn fwy buan os oes angen. Ymgeisiwch cyn gynted ag y gallwch. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, archwiliad meddygol ar ôl cael cynnig, ac archwiliad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol arnom ar gyfer pob cyflogai newydd sy’n ymuno â’r busnes. Efallai y bydd angen gwiriadau ac archwiliad diogelwch ychwanegol ar gyfer rhai swyddi, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni pob archwiliad. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r archwiliadau hyn mewn e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.