Dyddiad: 19 Awst 2026

Lleoliad: Hwlffordd, Cymru, GB, SA62 4RR

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8774                                                                             
Math o Waith Parhaol (5 diwrnod yr wythnos)
Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso
Cwmpas Cyflog £26,000.00 y flwyddyn (yn seiliedig ar 37 awr yr wythnos)

Lleoliad

Dyddiad Cau

Llys y Fran, Sir Benfro (SA63 4RR)

Ymgeisiwch cyn gynted â phosibl – byddwn yn adolygu ceisiadau yn wythnosol tan i’r swydd gael ei llenwi ag ymgeisydd priodol.

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Byddwch yn gweithio’n agos gyda Rheolwr y Caffi a Chogydd ychwanegol i sicrhau gweithrediad didrafferth cegin y caffi. Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o redeg y gegin, gan sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau uchel a bennwyd o hylendid bwyd a phroffesiynoldeb, tra’n gweini bwyd o ansawdd uchel i’n hymwelwyr, a baratowyd ac a goginiwyd ar y safle.

 

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Paratoi, coginio a gweini prydau o ansawdd uchel i’r safon a nodir yn y gweithdrefnau ac yn unol â thargedau cost     
  • Cyfathrebu’n effeithiol â holl aelodau’r tîm     
  • Darparu gwasanaeth rhagorol i westeion     
  • Sicrhau bod yr holl weithdrefnau diogelwch bwyd yn cael eu dilyn ac y cydymffurfir â nhw, gan sicrhau bod y gegin yn ddiogel, wedi’i diheintio ac yn lân bob amser       
  • Dangos gwybodaeth gyflawn o bob bwydlen ac alergen bwyd    
  • Cynorthwyo gwaith cynllunio bwydlenni a digwyddiadau    
  • Cynorthwyo gydag archebu stoc i sicrhau bod lefelau stoc digonol yn cael eu cynnal ar gyfer y gwasanaeth    

Amdanoch chi

Profiad Hanfodol

  • Profiad o weithio mewn cegin brysur fel dirprwy gogydd neu gogydd 

 

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Yn gallu darparu lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid
  • Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda chwsmeriaid a chydweithwyr

Yn gallu bod yn drefnus a dilyn proses

Buddion

 

  • Gweithio 5 o bob 7 diwrnod yr wythnos (rota yn cael ei gytuno un mis ymlaen llaw)
  • Contract llawn amser 37 awr yn gweithio oriau blynyddol
  • Mae’n rhaid gallu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol
  • Bydd y swydd am bum diwrnod yr wythnos yn gweithio ar rota o ddydd Llun i ddydd Sul ag oriau posibl rhwng 8.30am a 6.00pm (i gwmpasu diwrnod gwaith hiraf posibl o 8 awr)
  • Amrywiaeth o batrymau shifftiau ar gael,  er y bydd angen i ymgeiswyr fod yn hyblyg i weithio ar ddiwrnodau gwaith a phenwythnosau
  • Yn cychwyn cyn gynted â phosibl
  • Bydd angen archwiliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y dyddiad cychwyn ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.

 

Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â: llysyfran@dwrcymru.com a rhowch rif adnabod y swydd [8774] yn y llinell pwnc.

 

Sylwer ei bod yn bosibl y byddwn yn cau’r swydd hon yn fwy buan os oes angen. Ymgeisiwch cyn gynted ag y gallwch. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb.

 

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, archwiliad meddygol ar ôl cael cynnig, ac archwiliad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol arnom ar gyfer pob cyflogai newydd sy’n ymuno â’r busnes. Efallai y bydd angen gwiriadau ac archwiliad diogelwch ychwanegol ar gyfer rhai swyddi, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni pob archwiliad. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r archwiliadau hyn mewn e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.

 

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.