Cynorthwyydd Manwerthu/ Caffi
Dyddiad: 15 Hyd 2026
Lleoliad: Rhaeadr Gwy, Cymru, GB, LD6 5HP
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9322 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Hamdden a Chroeso |
| Cwmpas Cyflog | £25,949.00 |
|
Lleoliad Dyddiad cau ceisiadau
|
Elan Valley (LD6 5HP) Gwnewch gais cyn gynted â phosibl – byddwn yn adolygu ceisiadau’n wythnosol nes bod y rôl wedi’i llenwi gan ymgeisydd addas.
|
Pwy ydyn ni
Oeddech chi'n gwybod bod gennym safle atyniad ymwelwyr yng Nghwm Elan[HS1] sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn? Mae’r safle’n cynnwys caffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy'n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr. Dewch i ymuno â'n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o'r safleoedd harddaf ym Mhowys. Eisiau gweld mwy? Cliciwch yma[HS2] i edrych ar ein gwefan - www.elanvalley.org.uk[HS3]
Mae Cwm Elan[HS4] wedi'i leoli yn sir Powys yng nghanolbarth Cymru, ychydig oriau yn unig o Birmingham a Chaerdydd. Gellir ei gyrraedd yn hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da.
Buddion
Rydym yn cynnig manteision gwych, gan gynnwys:
· Cynnydd blynyddol yn y cyflog byw
· Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr
· Darperir hyfforddiant a gwisg
· Lleoliad gwaith hardd
· Oriau gweithio hyblyg (ar gais)
Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ei amgylchedd hardd yn bwysig iddo.
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Fel Cynorthwyydd Arlwyo, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- Gweithio yn unol â gweithdrefnau priodol i sicrhau diogelwch pob unigolyn ar y safle.
- Cysoni incwm dyddiol â derbyniadau til.
- Gweini bwyd a diod i gwsmeriaid.
- Sicrhau bod byrddau yn lân ac ar gael i gwsmeriaid eu defnyddio.
- Dyletswyddau glanhau cyffredinol yn y gegin a'r ardaloedd storio.
- Coginio i gydweithwyr a gweini prydau poeth yn ystod oriau amser brecwast a chinio.
Amdanoch chi
- Cymhwyster Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd yn ddelfrydol
- Profiad ym maes Arlwyo / Manwerthu / Lletygarwch
- Profiad ymarferol ym maes Iechyd a Diogelwch
- Gwybodaeth neu arbenigedd ym maes gwasanaeth cwsmeriaid manwerthu
- Gweithio gyda'r cyhoedd
- Y gallu i weithio ar eich menter eich hun
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg
- Ymwybyddiaeth fasnachol
- Sgiliau rhifedd / gweithredu til
Werth ei wybod
- Gweithio ar sail rota o ddydd Llun i ddydd Sul gydag oriau posibl rhwng 8.30am a 6.00pm (i gwmpasu diwrnod gwaith 8 awr o hyd)
- Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein hamseroedd prysuraf a bydd mwy o oriau ar gael bryd hynny
- Rhaid gallu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â victoria.hadnett@dwrcymru.com
Sylwer, efallai y byddwn yn cau'r rôl hon yn gynt os bydd angen. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl wiriadau. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.