Cynorthwyydd Manwerthu/ Caffi

Dyddiad: 5 Awst 2026

Lleoliad: Rhaeadr Gwy, Cymru, GB, Ld65hp

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8903                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso
Cwmpas Cyflog £25,949.00 -£25,949.00 
Lleoliad Elan Valley
Dyddiad cau ceisiadau 
Ymgeisiwch cyn gynted â phosibl - byddwn yn adolygu ceisiadau'n wythnosol nes bydd y swydd wedi'i llenwi gan ymgeisydd addas.

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

 

Fel Cynorthwyydd Caffi a Manwerthu, bydd angen i chi wneud y canlynol:

 

Cynorthwyo gyda dyletswyddau a gweithgareddau rheng flaen sy’n gysylltiedig â derbynfa’r ganolfan atyniad ymwelwyr mewn ffordd effeithlon, gadarnhaol a phroffesiynol, gan sicrhau bod delwedd ac uniondeb Dŵr Cymru yn cael eu cynnal ar lefel uchel.

 

Bydd hyn yn cynnwys:

 

1   Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl gyrff allanol, ymwelwyr ac aelodau o’r cyhoedd sy’n mynychu’r ganolfan atyniad ymwelwyr

2   Cyfrannu’n effeithiol at amcanion a nodau’r tîm atyniad ymwelwyr. Bydd gofyn i chi gynorthwyo gydag archebion ar gyfer ystafelloedd cyfarfod, archebion arlwyo, ac ymdrin ag ymholiadau o ddydd i ddydd

3   Cyfrannu at ofynion iechyd a diogelwch ar y safle, gan sicrhau amgylchedd gwaith diogel sy’n addas i’r diben ar gyfer staff ac ymwelwyr

4   Cynorthwyo tîm rheoli’r atyniad ymwelwyr i sicrhau bod Dŵr Cymru yn gweithredu ac yn cynnal amgylchedd gwaith diogel, gan gyflawni’r safonau gofynnol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydymffurfiaeth Statudol. Cynorthwyo gyda Chofrestrau Tân, gwacáu, cymorth cyntaf a diogelwch staff ac ymwelwyr

5   Cyfarfod a chyfarch ymwelwyr, gan sicrhau eu bod yn llofnodi’r llyfr ymwelwyr a bod eu cyswllt ar y safle yn cwrdd â nhw

6   Ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn a chysylltu yn allanol ac yn fewnol, trosglwyddo galwadau, cymryd negeseuon, ateb ymholiadau, ar gyfer pob agwedd ar weithgareddau’r safle

7   Cynorthwyo Cymorth Busnes gyda thasgau gweinyddol cyffredinol o ddydd i ddydd

8   Cynorthwyo gyda phob elfen o’r post, yn fewnol ac yn allanol, danfoniadau wedi’u cofnodi, parseli a phecynnau, cludwyr a danfoniadau arbennig ar y safle

9   Monitro’r system archebu ar gyfer llogi beiciau

10   Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes

11   Cynorthwyo yn y man manwerthu gyda thiliau a chyflenwi yn ystod egwyliau

Amdanoch chi

 

Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad hanfodol

 

Cymwysterau hanfodol

-Cymwysterau clercol/gweinyddol neu gymwysterau’n ymwneud â chysylltiadau cyhoeddus

 

Profiad hanfodol

-Profiad o ymdrin ag aelodau o’r cyhoedd, gweithio ar y rheng flaen mewn derbynfa neu mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid yn flaenorol

-Profiad o wneud a derbyn galwadau ffôn ac ymholiadau, ymdrin â chwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd ar y ffôn

 

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

-Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd

-Ymwybyddiaeth fasnachol

-Gwybodaeth neu brofiad o brosesau Iechyd a Diogelwch

-Gwybodaeth gymwys o gyfrifiaduron gyda phrofiad o ddefnyddio Excel, Word, Outlook a PowerPoint

-Y gallu i wneud penderfyniadau cadarnhaol a rheoli sefyllfaoedd

-Mae’n rhaid i chi allu dangos y gallu i ymgymryd â thasgau ar eich pen eich hun o fewn amserlenni penodol a gweithio mewn tîm hefyd

-Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Saesneg

Werth ei wybod

 

  • Gweithio rota o ddydd Llun i ddydd Sul gydag oriau posibl rhwng 8.30am a 6.00pm (i gynnwys diwrnod gwaith 8 awr)
  • Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein hamseroedd prysuraf, lle y bydd mwy o oriau ar gael
  • Mae’n rhaid i chi allu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â victoria.hadnett@dwrcymru.com

 

 

Sylwer, efallai y byddwn yn cau’r rôl hon yn gynt os bydd angen. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb.

 

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy’n ymuno â’r busnes. Ar gyfer rhai rolau, efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni pob gwiriad. Byddwch yn cael mwy o wybodaeth am sut i gwblhau’r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.

Buddion

Mae gennym fanteision gwych, gan gynnwys:

 

· Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau ymwelwyr

· Darperir hyfforddiant llawn a gwisg

· Lleoliad gweithio hardd

· Oriau gweithio hyblyg

 

Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ein hamgylchedd hardd yn bwysig iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.