Derbynnydd Atyniad Ymwelwyr
Dyddiad: 27 Hyd 2026
Lleoliad: Hwlffordd, Cymru, GB, SA63 4RR
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9365 |
| Math o Waith | Achlysurol |
| Swyddogaeth y Swydd | Hamdden a Chroeso |
| Cwmpas Cyflog | £13.45 / awr |
| Lleoliad | Llys y Fran |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Rheoli’r dyletswyddau a’r gweithgareddau blaen y tŷ sy’n gysylltiedig â derbynfa’r ganolfan Atyniad Ymwelwyr mewn ffordd effeithlon, gadarnhaol a phroffesiynol gan sicrhau bod delwedd ac uniondeb Dŵr Cymru yn cael eu cynnal ar lefel uchel. Bydd hyn yn cynnwys:
Tasgau a chyfrifoldebau allweddol
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob corff allanol, ymwelydd ac aelod o’r cyhoedd sy’n ymweld â’r ganolfan atyniad ymwelwyr.
- Cyfrannu’n effeithiol at amcanion a nodau’r tîm atyniadau ymwelwyr. Bydd yn ofynnol i chi reoli’r broses llogi ystafelloedd cyfarfod, arlwyo a gofynion chwaraeon dŵr.
- Cyfrannu at ofynion iechyd a diogelwch ar y safle, gan sicrhau amgylchedd gweithio diogel ac addas i’r diben ar gyfer staff ac ymwelwyr.
- Cynorthwyo tîm rheoli’r Atyniad Ymwelwyr gyda sicrhau bod Dŵr Cymru yn gweithredu ac yn cynnal amgylchedd gweithio diogel, gan fodloni’r safonau gofynnol o Iechyd a Diogelwch a Chydymffurfiad Statudol. Cynorthwyo gyda Chofrestrau Tân, gwagio’r adeilad, cymorth cyntaf a diogelwch staff ac ymwelwyr.
- Cyfarfod a chyfarch Ymwelwyr, gan sicrhau eu bod yn mewngofnodi yn y llyfr ymwelwyr ac yn cael eu cyfarfod gan y cyswllt ar y safle.
- Ymdrin â’r holl ymholiadau ffôn a chysylltu’n allanol ac yn fewnol, trosglwyddo galwadau, cymryd negeseuon, ateb ymholiadau, ar gyfer pob agwedd ar weithgareddau’r safle.
- Cynorthwyo’r adran Cymorth Busnes gyda thasgau gweinyddol cyffredinol o ddydd i ddydd.
- Cynorthwyo gyda phob elfen o bost yn fewnol ac yn allanol, danfoniadau wedi’u cofnodi, parseli a phecynnau, cludwyr a danfoniadau arbennig ar y safle.
- Monitro, creu ac aildrefni’r system cadw lle ar gyfer chwaraeon dŵr trwy feddalwedd EOLA.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes.
Amdanoch chi
Cymwysterau Hanfodol
- Cymwysterau clerigol/gweinyddiaeth neu gysylltiedig â chysylltiadau cyhoeddus, neu brofiad cyfatebol.
Profiad Hanfodol
- Profiad o ymdrin â’r cyhoedd, gan gynnwys gweithio mewn swydd blaen y tŷ, derbynfa neu’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid.
- Profiad o wneud a derbyn galwadau ffôn ac ymholiadau, ac ymdrin â chwsmeriaid a’r cyhoedd dros y ffôn.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol
- Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid gyntaf bob dydd.
- Ymwybyddiaeth fasnachol.
- Gwybodaeth am brosesau Iechyd a Diogelwch neu brofiad ohonynt.
- Gwybodaeth gymwys am gyfrifiaduron, â phrofiad o Excel, Word, Outlook a PowerPoint.
- Gallu i wneud penderfyniadau cadarnhaol a rheoli sefyllfaoedd.
- Gallu i gyflawni tasgau yn annibynnol o fewn amserlenni penodedig, yn ogystal â gweithio’n effeithiol yn rhan o dîm.
- Gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig.
Werth ei wybod
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach am y swydd hon, cysylltwch â llysyfran@dwrcymru.com
Buddion
Mae gennym fanteision gwych, gan gynnwys:
- Adolygiad cyflog blynyddol
- Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr
- Hyfforddiant llawn a gwisg gwaith yn cael eu darparu
- Lleoliad gwaith prydferth
- Oriau gwaith hyblyg
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel a dibynadwy, ac yn cymryd dŵr gwastraff i ffwrdd i’w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’n afonydd a’n moroedd hyfryd.
Llys-y-frân yw ein cronfa ddŵr fwyaf yn Sir Benfro, wedi’i lleoli yng ngodreon Mynyddoedd Preseli. Gwnaed gwaith ailwampio gwerth £4 miliwn ar y safle, gan ailagor y Ganolfan Ymwelwyr â chaffi newydd, man manwerthu a Chanolfan Weithgareddau wych sy’n cynnig gweithgareddau ar y tir a’r dŵr.
Dewch i ymuno â’n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o’r mannau harddaf yn Sir Benfro. Hoffech chi weld mwy? Cliciwch Yma i gymryd golwg ar ein gwefan www.llys-y-fran.co.uk/
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.