Derbynnydd Atyniad Ymwelwyr

Dyddiad: 27 Hyd 2026

Lleoliad: Hwlffordd, Cymru, GB, SA63 4RR

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9365                                                                             
Math o Waith Achlysurol
Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso
Cwmpas Cyflog £13.45 / awr
Lleoliad Llys y Fran

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Rheoli’r dyletswyddau a’r gweithgareddau blaen y tŷ sy’n gysylltiedig â derbynfa’r ganolfan Atyniad Ymwelwyr mewn ffordd effeithlon, gadarnhaol a phroffesiynol gan sicrhau bod delwedd ac uniondeb Dŵr Cymru yn cael eu cynnal ar lefel uchel. Bydd hyn yn cynnwys: 

 

 

Tasgau a chyfrifoldebau allweddol

 

  1. Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob corff allanol, ymwelydd ac aelod o’r cyhoedd sy’n ymweld â’r ganolfan atyniad ymwelwyr.
  2. Cyfrannu’n effeithiol at amcanion a nodau’r tîm atyniadau ymwelwyr. Bydd yn ofynnol i chi reoli’r broses llogi ystafelloedd cyfarfod, arlwyo a gofynion chwaraeon dŵr.
  3. Cyfrannu at ofynion iechyd a diogelwch ar y safle, gan sicrhau amgylchedd gweithio diogel ac addas i’r diben ar gyfer staff ac ymwelwyr.
  4. Cynorthwyo tîm rheoli’r Atyniad Ymwelwyr gyda sicrhau bod Dŵr Cymru yn gweithredu ac yn cynnal amgylchedd gweithio diogel, gan fodloni’r safonau gofynnol o Iechyd a Diogelwch a Chydymffurfiad Statudol. Cynorthwyo gyda Chofrestrau Tân, gwagio’r adeilad, cymorth cyntaf a diogelwch staff ac ymwelwyr.
  5. Cyfarfod a chyfarch Ymwelwyr, gan sicrhau eu bod yn mewngofnodi yn y llyfr ymwelwyr ac yn cael eu cyfarfod gan y cyswllt ar y safle.
  6. Ymdrin â’r holl ymholiadau ffôn a chysylltu’n allanol ac yn fewnol, trosglwyddo galwadau, cymryd negeseuon, ateb ymholiadau, ar gyfer pob agwedd ar weithgareddau’r safle.
  7. Cynorthwyo’r adran Cymorth Busnes gyda thasgau gweinyddol cyffredinol o ddydd i ddydd.
  8. Cynorthwyo gyda phob elfen o bost yn fewnol ac yn allanol, danfoniadau wedi’u cofnodi, parseli a phecynnau, cludwyr a danfoniadau arbennig ar y safle.
  9. Monitro, creu ac aildrefni’r system cadw lle ar gyfer chwaraeon dŵr trwy feddalwedd EOLA.
  10. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes.

 

Amdanoch chi

Cymwysterau Hanfodol

  • Cymwysterau clerigol/gweinyddiaeth neu gysylltiedig â chysylltiadau cyhoeddus, neu brofiad cyfatebol.

 

Profiad Hanfodol

  • Profiad o ymdrin â’r cyhoedd, gan gynnwys gweithio mewn swydd blaen y tŷ, derbynfa neu’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid.
  • Profiad o wneud a derbyn galwadau ffôn ac ymholiadau, ac ymdrin â chwsmeriaid a’r cyhoedd dros y ffôn.

 

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid gyntaf bob dydd.
  • Ymwybyddiaeth fasnachol.
  • Gwybodaeth am brosesau Iechyd a Diogelwch neu brofiad ohonynt.
  • Gwybodaeth gymwys am gyfrifiaduron, â phrofiad o Excel, Word, Outlook a PowerPoint.
  • Gallu i wneud penderfyniadau cadarnhaol a rheoli sefyllfaoedd.
  • Gallu i gyflawni tasgau yn annibynnol o fewn amserlenni penodedig, yn ogystal â gweithio’n effeithiol yn rhan o dîm.
  • Gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig.

 

Werth ei wybod

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach am y swydd hon, cysylltwch â llysyfran@dwrcymru.com

 

Buddion

Mae gennym fanteision gwych, gan gynnwys:

  • Adolygiad cyflog blynyddol
  • Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr
  • Hyfforddiant llawn a gwisg gwaith yn cael eu darparu
  • Lleoliad gwaith prydferth
  • Oriau gwaith hyblyg

Pwy ydyn ni

 

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel a dibynadwy, ac yn cymryd dŵr gwastraff i ffwrdd i’w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’n afonydd a’n moroedd hyfryd. 

 

Llys-y-frân yw ein cronfa ddŵr fwyaf yn Sir Benfro, wedi’i lleoli yng ngodreon Mynyddoedd Preseli. Gwnaed gwaith ailwampio gwerth £4 miliwn ar y safle, gan ailagor y Ganolfan Ymwelwyr â chaffi newydd, man manwerthu a Chanolfan Weithgareddau wych sy’n cynnig gweithgareddau ar y tir a’r dŵr.

 

Dewch i ymuno â’n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o’r mannau harddaf yn Sir Benfro. Hoffech chi weld mwy? Cliciwch Yma i gymryd golwg ar ein gwefan www.llys-y-fran.co.uk/

 

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.