Swyddog Cymunedol ac Ymgyrchoedd

Dyddiad: 6 Awst 2026

Lleoliad: Abertawe, Cymru, GB, SA6 5BQ

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9019                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Default
Cwmpas Cyflog £34,566.00 -£40,821.00 
Lleoliad Clydach
Dyddiad cau ceisiadau 
Dydd Sul, 16 Awst 2026 - 23:59

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

 

Mae'r Swyddog Cymunedol ac Ymgyrchoedd yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cyfathrebu ac ymgyrchoedd rhanbarthol effeithiol sy'n datblygu ymddiriedaeth, ymwybyddiaeth ac ymgysylltu gyda chwsmeriaid a chymunedau. Gan weithio'n agos gydag Arweinwyr Cymunedol ac Ymgyrchoedd a chydweithwyr cyfathrebu ehangach, mae'r rôl yn canolbwyntio ar ddatblygu a chyflwyno gweithgarwch ymgyrchu aml-sianel, creu cynnwys diddorol, a meithrin perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid cymunedol, partneriaid a thimau mewnol. Mae deiliad y swydd yn cynnig dealltwriaeth a chyngor ar faterion yn ymwneud â chyfathrebu ac enw da, yn cefnogi gweithgarwch ymgysylltu â'r gymuned, ac yn helpu i gyflwyno ymgyrchoedd sydd wedi'u cynllunio'n dda, yn gyson ac yn effeithiol.

 

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Gweithio'n agos gyda’r Arweinwyr  Cymunedol ac Ymgyrchoedd i gyflawni cyfathrebu rhanbarthol a chynlluniau ymgyrchu ar draws y rhanbarth
  • Meithrin a chynnal perthynas gref â grwpiau cymunedol, dylanwadwyr, rheolwyr gweithredol, a phartneriaid cyfalaf, gan helpu i gynnal proffil cyhoeddus sylweddol yn y rhanbarth a gweithredu fel cynrychiolydd dibynadwy Dŵr Cymru. Cynnig dealltwriaeth a chyngor i reolwyr gweithredol ar faterion yn ymwneud ag enw da a chyfathrebu.
  • Helpu gyda gweithgarwch ymgysylltu cymunedol aml-sianel (e.e. digwyddiadau, allgymorth, partneriaethau, cyfathrebu lleol) a’i gefnogi.
  • Gweithredu, monitro a chyfrannu at adrodd a gwerthuso ymgyrchoedd rhanbarthol / cymunedol, gan nodi ffyrdd o godi ymwybyddiaeth gyffredinol a meithrin ymgysylltu cadarnhaol ac ymddiriedaeth cwsmeriaid.
  • Creu cynnwys amlgyfrwng diddorol a pherthnasol pwrpasol ar gyfer grwpiau demograffig perthnasol, gan fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gyflwyno negeseuon allweddol, datblygu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth, ymgysylltu neu newid ymddygiad, gweithio'n agos gyda gweddill y tîm brand ac ymgyrchoedd i sicrhau cysondeb y neges.
  • Cyfrannu at galendr cynnwys y cyfryngau cymdeithasol a gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Cyfryngau Digidol a Chymdeithasol
  • Sicrhau bod cyflawni'r ymgyrch yn adrodd ein stori yn effeithiol mewn ffordd sy'n datblygu ymwybyddiaeth o’r cwmni, ymddiriedaeth cwsmeriaid yn y brand, addysg a dealltwriaeth.
  • Gweithio'n agos gyda gweddill y tîm cyfathrebu a meysydd busnes eraill i sicrhau bod ymgyrchoedd yn adlewyrchu gwirionedd gweithredol ac anghenion cwsmeriaid, gan gydweithio â thimau cysylltiadau cyhoeddus, arweinwyr cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu mewnol, digwyddiadau ac asiantaethau allanol pan fo angen.
  • Rhoi cymorth cyfathrebu ar rota ar alwad ac yn ystod digwyddiadau gweithredol aur ac arian, lle bo angen.

Amdanoch chi

 

Mae'r canlynol yn ofynion hanfodol ar gyfer recriwtio i'r rôl:

 

Cymwysterau

  • Addysg i lefel gradd neu’n gallu dangos profiad sylweddol yn gweithredu ar lefel debyg o fewn rôl gyfathrebu arbenigol, gyda chymhwyster cyfathrebu proffesiynol neu wybodaeth ac arbenigedd sy’n cyfateb.

 

 

Profiad

  • Profiad o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu mewn sefydliad/diwydiant sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid
  • Yn deall rheoli ymgyrchoedd cyfathrebu a thechnegau rheoli prosiectau
  • Profiad amlwg o ymgysylltu â rhanddeiliaid a meithrin perthnasoedd a phartneriaethau mewnol i lunio cynlluniau cyfathrebu strategol
  • Profiad o ran cynghori rhanddeiliaid mewnol ac allanol am faterion cyfathrebu
  • Profiad o dechnegau cyfathrebu digidol a hysbysebu/marchnata a dealltwriaeth sut y gall sianeli cyfryngau digidol a chymdeithasol helpu i gyfathrebu negeseuon
  • Profiad o ysgrifennu copi creadigol a chywir mewn gwahanol arddulliau a chyfathrebu gwybodaeth i bobl mewn ffordd syml a diddorol
  • Profiad o greu cynnwys ac yn gyfforddus wrth ddefnyddio amrywiaeth o offer digidol, dylunio, ffilm a chyfryngau cymdeithasol a phecynnau golygu

 

 

Gwybodaeth a sgiliau

    • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol i sefydlu cydberthynas, hygrededd a pherthnasoedd ar draws Dŵr Cymru
    • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn Saesneg a'r gallu i brosesu cyfieithu a gwirio copïau ar gyfer y Gymraeg
    • Yn gallu creu negeseuon a gweithgarwch pwrpasol ar gyfer gymunedau, cynulleidfaoedd a chyd-destunau lleol amrywiol
    • Galluoedd rheoli prosiectau, sgiliau cyflwyno a chyfathrebu
    • Hyderus wrth ddefnyddio data a dealltwriaeth i fesur perfformiad a dangos effaith
    • Sgiliau trefnu cryf ac yn gallu rheoli blaenoriaethau cystadleuol
    • Dealltwriaeth glir o gyllidebau
    • Yn gallu defnyddio amrywiaeth o systemau i reoli gweithgarwch cyfathrebu e.e. systemau rheoli cyfryngau / y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau, offer rheoli ymgyrchoedd, y cyfryngau cymdeithasol

Werth ei wybod

 

  • Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yng Nghlydach ac mae'n dilyn model gweithio hybrid, gydag o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa, ochr yn ochr â gweithio gartref a ac ar safleoedd.
  • Mae angen trwydded yrru lawn y DU a cherbyd at eich defnydd, gan fod teithio rheolaidd ledled Gorllewin Cymru yn rhan o'r rôl.
  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan yn rota swyddfa'r wasg Dŵr Cymru. Mae lwfans wrth gefn yn daladwy pan fyddwch ar alwad.
  • Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yr wythnos yn dechrau 24 Awst 2026, wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yng Nghlydach.

 

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.