Technegydd Cynnal a Chadw

Dyddiad: 24 Gorff 2026

Lleoliad: Caer, Cymru, GB, ch

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8879                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau
Cwmpas Cyflog £31,395.00 -£35,682.00 
Lleoliad Chester

Dyddiad cau ceisiadau

 Dydd Sul, 2 Awst 2026

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

 

Fel Technegydd Cynnal a Chadw (pwyslais ar systemau Trydanol), bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys y canlynol:

  • Yn y swydd hon i’w chynnal yn y maes, byddwch yn rhan o dîm sy'n gweithio ar weithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer asedau Dŵr Cymru e.e. prosiectau gwella a gwaith cynnal a chadw ataliol, yn ogystal ag ymateb i fethiannau ledled yr ardal.
  • Ymchwilio i natur methiannau peiriannau a gwneud gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ac wedi'i drefnu ar yr holl offer sy'n ymwneud â sylfaen asedau Dŵr Cymru er mwyn lleihau methiannau peiriannau.
  • Cyflawni gosodiadau tebyg am debyg, adnewyddu a chynorthwyo gyda chomisiynu offer yn ôl manyleb, ar amser ac yn unol â gweithdrefnau'r cwmni.
  • Cynnal archwiliad o bartiau sbâr a deunyddiau sydd eu hangen i gwblhau gwaith yn effeithiol, archebu eitemau angenrheidiol trwy eich goruchwyliwr neu yn uniongyrchol oddi wrth gyflenwr.
  • Dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni - bod yn atebol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a bod a dyletswydd i ofalu am eich cydweithwyr ac unrhyw un yr effeithir arno gan y gwaith rydych chi'n ei wneud.
  • Ymdrin â sefyllfaoedd sydd weithiau’n anodd mewn modd cyfeillgar, cadarnhaol a phroffesiynol, gan ymdrechu i gael datrysiad cyflym.
  • Diweddaru gwybodaeth mewn systemau TG amrywiol yn ddyddiol.
  • Cysylltu â chontractwyr allanol ynghylch cynlluniau cyfalaf mawr gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac yn effeithlon ac yn cydymffurfio'n llawn â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch a gweithdrefnau’r cwmni.
  • Trefnu eich amser eich hun, ymdrin â gwaith arferol gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.

Amdanoch chi

 

Prentisiaeth gydnabyddedig mewn peirianneg fecanyddol/drydanol neu ddeuol a ddyfarnwyd gyda chymhwyster NVQ Lefel 3 neu gymhwyster City & Guilds sydd gyfwerth

• Trwydded yrru lawn

• Profiad o weithio mewn tîm

• Profiad o ddadansoddi gwybodaeth i adnabod problemau posibl

• Profiad ymarferol a gafwyd mewn diwydiant i gefnogi eich prentisiaeth a sicrhau cydymffurfiaeth ac ymlyniad llawn wrth yr holl weithdrefnau Iechyd a Diogelwch

• Gallu cyfathrebu'n dda, gwrando ac ymateb yn briodol i ddatrys problemau

• Yn gallu creu a chynnal rhwydweithiau da gydag adrannau mewnol

• Yn gallu gweithio i ddyddiadau cau tynn, weithiau mewn amgylchiadau anodd

• Ymwybyddiaeth o gyrff rheoleiddio fel  Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

• Yn gallu defnyddio pecynnau meddalwedd Microsoft a systemau gweithredol eraill

Werth ei wybod

 

  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan ar alwad (1 wythnos allan o bob 7 wythnos), a hefyd yn cymryd rhan mewn 260 awr o amser gwaith wedi'i gynllunio.

Buddion

 

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

 

Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)

Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn

Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr

Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim

Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd

Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir

Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr

Cynllun beicio i'r gwaith

Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru

Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle

Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein

Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos

Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

 

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

 

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

 

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

 

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

 

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.