Arbenigwr Rheoleiddio Amgylcheddol

Dyddiad: 23 Medi 2026

Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, NP10 8FZ

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8722                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Gwyddonydd
Cwmpas Cyflog £47,492.00 -£54,618.00 
Lleoliad Ty Awen
Dyddiad cau ceisiadau
Dydd Sul, 4 Hydref 2026

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

 

Fel Arbenigwr Rheoleiddio Amgylcheddol, bydd gofyn i chi ddarparu arbenigedd i'r busnes ym maes deddfwriaeth, rheoleiddio a pholisi amgylcheddol a gwastraff i sicrhau bod Dŵr Cymru yn cael ei gydnabod gan randdeiliaid allanol fel stiward cyfrifol dros yr amgylchedd ac yn deall ac yn gweithredu gofynion unrhyw bolisi neu newid o ran rheoleiddio. 

 

 

Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:

 

 

  • Cynnal ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyfredol o Ddeddfwriaeth a Rheoliadau Amgylcheddol a Gwastraff a darparu cyngor gwyddonol a rheoleiddio i Weithrediadau wrth arfer dyletswyddau statudol y Cwmni.
  • Cyfathrebu â’r busnes a dehongli effaith unrhyw bolisïau rheoleiddio newydd arno, wrth ddrafftio neu yn y cyfnod cysyniad, a allai effeithio ar y ffordd yr ydym yn gweithredu ein hasedau neu sut mae'n ofynnol i ni wella ein hasedau.
  • Cynorthwyo i lunio a datblygu polisïau a strategaethau i fodloni gofynion rheoleiddio amgylcheddol wrth wneud argymhellion ar gyfer newid ac adolygu'r gweithrediad o fewn y busnes yn dilyn hynny.
  • Cynrychioli'r cwmni yn WaterUK / Grwpiau Gorchwyl a Gorffen y diwydiant dŵr / Rheoleiddio yn ôl yr angen ar faterion rheoleiddio a sicrhau eu cymhwysiad tactegol o fewn Dŵr Cymru.
  • Datblygu a meithrin perthnasoedd effeithiol â rhanddeiliaid allanol a rheoleiddwyr amgylcheddol i sicrhau bod Dŵr Cymru yn rheoli ei gyfrifoldebau rheoleiddio'n rhagweithiol. Bod yn bwynt cyswllt yn y rhanbarth i'r rheoleiddiwr o ran rheoleiddio arloesol ein gollyngiadau amgylcheddol e.e. cefnogi dulliau trwyddedu dalgylch.
  • Darparu cyngor rheoleiddio arbenigol i'r rhaglen gyfalaf i sicrhau bod atebion cynllun yn bodloni'r gofynion rheoleiddiol a chanlyniadau AMP. Darparu cyngor arbenigol iddynt ar gyfer cyflwyno unrhyw amrywiadau trwydded angenrheidiol yn gywir.
  • Cefnogi'r gwaith o lunio ymatebion i ymgynghoriadau y dylai Dŵr Cymru ymateb iddynt.
  • Cefnogi'r gweithgareddau rheoleiddio amgylcheddol sy'n gysylltiedig â datblygu Rhaglenni Amgylchedd Cenedlaethol (NEP) yn y dyfodol.
  • Cefnogi'r busnes (timau gweithredol ac asedau) gydag amrywiadau trwydded a gychwynnwyd gan weithredwyr ac arwain trafodaethau gofynnol gyda rheoleiddwyr ar yr amrywiadau hyn.
  • Byddwch yn bwynt cyswllt ar gyfer darparu gwybodaeth drwyddedu a rheoleiddio i gefnogi unrhyw apeliadau trwydded, heriau cyfreithiol neu achosion i gefnogi tîm cyfreithiol Dŵr Cymru mewn unrhyw fater rheoleiddio amgylcheddol.

Amdanoch chi

 

  • Gradd mewn gwyddoniaeth neu beirianneg, neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol
  • Yn ddelfrydol 10 mlynedd o brofiad o weithio gyda rheoleiddwyr amgylcheddol a hanes o gydweithio
  • Profiad o Reoli Prosiect neu brofiad o gyflawni rhaglenni gwaith i amserlenni rheoleiddio tynn
  • Profiad o ymdrin â rheoleiddwyr amgylcheddol (neu gorff rheoleiddio arall), a meithrin perthynas ag asiantaethau allanol gan nodi cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd a lleihau llwyth gwaith sefydliadol
  • Profiad o reoli pobl, yn ddelfrydol o fewn lleoliad rheoledig
  • Gwybodaeth sylweddol am weithredu EPR 2016.
  • Yn gallu dadansoddi data mewn symiau mawr a deall pwysigrwydd cywirdeb yn yr wybodaeth honno. Canolbwyntio ar sylw i fanylion a deall canlyniadau gwybodaeth anghywir a roddir i gydweithwyr a rhanddeiliaid allanol.
  • Sgiliau Cyfathrebu – Bod â chymhelliant a'r gallu i gyfnewid gwybodaeth briodol gyda phobl berthnasol ar yr adeg iawn. Yr awydd a'r sgiliau i geisio deall yn gyntaf yn ogystal â chael eich deall.
  • Profiad o reoli pobl, yn ddelfrydol o fewn lleoliad rheoledig
  • Cynrychiolaeth Gorfforaethol - Y brwdfrydedd a'r gallu i gyflwyno delwedd gadarnhaol a phroffesiynol o Dŵr Cymru gyda'r holl gysylltiadau a rhanddeiliaid bob amser.
  • Uniondeb - Y parodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am brosiectau neu faterion ac i fod yn atebol am eu cyflawni’n amserol ac am eu hansawdd. Y gallu a'r cymhelliant i gyflawni unrhyw ymrwymiadau a wnaed yn gyson. Yr arfer o beidio byth â siomi pobl neu addo rhywbeth na ellir ei gyflawni.
  • Sgiliau Arweinyddiaeth – profiad profedig o'r gallu i arwain a datblygu tîm llwyddiannu

 

Werth ei wybod

 

  • Derbynnir ymgeiswyr o bob rhan o Gymru/ardal weithredu
  • Gweithio Hybrid
  • Os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â Mark.Rychnovsky@dwrcymru.com

Buddion

 

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

 

 

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.