Cydgysylltydd Prynu

Dyddiad: 11 Awst 2026

Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF30LT

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8944                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Cyfleusterau
Cwmpas Cyflog £28,065.00 -£31,887.00 
Lleoliad South East Hub
Dyddiad cau ceisiadau 
Dydd Sul, 16 Awst 2026 - 23:59

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Gan weithio’n agos gyda’r Tîm Caffael a chydweithwyr ar draws y busnes, byddwch yn rhan o swyddogaeth brynu ganolog, gan ddarparu cymorth caffael cydgysylltiedig a chyson. Byddwch yn helpu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar draws cylch oes cyflawn y broses archebu, gan sicrhau bod anghenion y busnes yn cael eu diwallu’n effeithlon ac yn gywir yn unol â phrosesau’r cwmni.

 

 Prif Gyfrifoldebau

  • Llunio, rheoli a chynnal cofnodion cywir o geisiadau ac archebion prynu, gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau’r cwmni a chefnogi canlyniadau sy’n rhoi gwerth am arian.
  • Prosesu gwybodaeth yn ymwneud ag anfonebau a nwyddau a gwasanaethau a dderbyniwyd, ac ymchwilio ymhellach i nwyddau a dderbyniwyd/a gadarnhawyd y mae taliad yn ddyledus ar eu cyfer er mwyn hwyluso taliad amserol.
  • Datrys anfonebau sydd wedi’u nodi ar y system ond sydd heb eu postio, anfonebau sydd wedi’u rhwystro ac anfonebau sy’n destun anghydfod trwy ddilysu data ceisiadau, archebion prynu a derbyn nwyddau, gan gydweithio â chydweithwyr a chyflenwyr i ganfod atebion.
  • Monitro a rheoli llifau gwaith, gan gynnwys mewnflychau a rennir ac archebion am nwyddau, gan sicrhau bod camau yn cael eu gweithredu yn amserol.
  • Cadw cofnodion cywir o drafodion a gweithgareddau.
  • Dilyn prosesau busnes sefydledig a chefnogi’r Tîm Caffael ehangach i ddarparu gwasanaeth effeithiol.
  • Meithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr ar draws y busnes er mwyn deall eu hanghenion caffael ac ymateb iddynt.
  • Darparu cymorth ac arweiniad llinell gyntaf i gydweithwyr ynghylch gweithgareddau prynu a’r systemau a ddefnyddir.
  • Llunio adroddiadau ar weithgarwch, gwariant, effeithlonrwydd a pherfformiad i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau gwelliant parhaus. Trin gwybodaeth yn unol â pholisïau a safonau diogelu data, cyfrinachedd a Dŵr Cymru.
  • Cyflawni dyletswyddau rhesymol eraill yn ôl yr angen i gefnogi anghenion y busnes ac amcanion y tîm.

Amdanoch chi

Mae’r gofynion canlynol yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

 

Profiad

 

  • Profiad a gwybodaeth amlwg o brosesau ac egwyddorion caffael.
  • Sgiliau ymgysylltu â rhanddeiliaid, cydweithio a chyfathrebu rhagorol.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd cyflym gyda nodau ac therfynau amser clir, lle mae cyfraniadau unigol yn cefnogi nodau ehangach y sefydliad.

 

Gwybodaeth a Sgiliau

 

  • Yn angerddol dros ddarparu gwasanaeth rhagorol a rhoi cwsmeriaid wrth wraidd yr hyn a wnawn.
  • Sgiliau rhifiadol a sgiliau cyfathrebu (llafar ac ysgrifenedig) effeithiol iawn.
  • Y gallu i fod yn hyblyg ac ymateb i flaenoriaethau ac anghenion busnes sy’n newid.
  • Dealltwriaeth dda o ddiogelu data a chyfrinachedd, a’r gallu i gymhwyso’r egwyddorion hyn yn briodol yn y gweithle.
  • Hyderus wrth ddefnyddio Microsoft Office ac offer digidol eraill.
  • Sylw rhagorol i fanylder a lefel uchel o gywirdeb.
  • Sgiliau cynllunio, trefnu a rheoli amser effeithiol.
  • Cyfeillgar, cefnogol ac agos-atoch, gyda’r gallu i feithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol ar draws y sefydliad.

Werth ei wybod

I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle hwn, e-bostiwch Jane.Britton@dwrcymru.com, gan ddyfynnu cyfeirnod y swydd [8944] yn llinell destun eich neges e-bost

 

Buddion

 

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.