Cynghorydd Pobl
Dyddiad: 27 Awst 2026
Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9145 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Adnoddau Dynol a Chyfathrebu |
| Cwmpas Cyflog | £42,786.00 -£48,912.00 |
| Lleoliad | South East Hub |
| Dyddiad Cau | 9 Medi |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Byddwch yn rhoi arweiniad a chefnogaeth arbenigol ar faterion AD, gan gynnwys cysylltiadau â gweithwyr, rheoli perfformiad, a chydymffurfiaeth. Byddwch chi'n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf i reolwyr a gweithwyr, gan sicrhau bod polisïau AD yn cael eu defnyddio’n gyson a helpu i feithrin diwylliant cadarnhaol yn y gweithle.
1. Cynghori a choetsio rheolwyr llinell ar bolisïau AD, cyfraith cyflogaeth, ac arferion gorau.
2. Cefnogi a choetsio rheolwyr gydag achosion cysylltiadau â gweithwyr gan gynnwys disgyblu, cwynion, rheoli absenoldeb, pryderon ynghylch gallu, ceisiadau i weithio’n hyblyg ac ati. Yn uwchgyfeirio achosion cymhleth i’r Partner Pobl yn ôl y galw
3. Partneru gyda rheolwyr y maes busnes a chydweithwyr y Ganolfan Gwasanaeth Adnoddau Dynol i sicrhau uniondeb data a bod cofnodion cywir yn cael eu cadw mewn systemau AD.
4. Cydweithredu â chydweithwyr AD ac arweinwyr maes busnes i gefnogi mentrau ynghylch lles, amrywiaeth a chynhwysiant.
5. Partneru gyda Chanolfan Gwasanaeth yr Adnoddau Dynol i sicrhau prosesau effeithiol o ran recriwtio, cynefino, a’r broses pan fydd cydweithwyr yn ymadael â’r cwmni.
6. Dadansoddi, monitro ac adrodd ar fetrigau AD, gan nodi tueddiadau i lywio gwneud penderfyniadau.
7. Cefnogi'r Partner Pobl gyda rheoli achosion cymhleth yn ôl yr angen, gan gynnwys paratoi ar gyfer Tribiwnlysoedd.
8. Datblygu, cynnal a rheoli ymyriadau hyfforddi cydweithwyr (ar y cyd â Chanolfannau Arbenigedd), gan gynnwys prosesau a chanllawiau sylfaenol yn ôl yr angen.
9. Arwain ar fentrau prosiectau AD, neu eu cefnogi, yn ôl yr angen, e.e. adolygu polisïau a gwella system ac ati
10. Cefnogi'r Partner Pobl i weithredu strategaethau cynllunio sefydliad y cytunwyd arnynt yn effeithiol, sicrhau bod ymgynghori effeithiol ar waith, cysylltu â chanolfan wasanaeth AD i sicrhau bod strwythurau sefydliadol yn cael eu cynnal yn gywir.
Amdanoch chi
Mae'r canlynol yn ofynion hanfodol ar gyfer recriwtio i'r rôl:
Cymwysterau
• Cymhwyster Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (neu bron â chwblhau astudio ar gyfer cymhwyster) a/neu addysg i lefel gradd neu gyfwerth
Profiad
• 2–4 blynedd o brofiad mewn rôl AD ymgynghorol neu gyffredinol mewn sefydliad tebyg/cymhleth
• Profiad o weithio mewn amgylchedd dan bwysau uchel a gweithio i derfynau amser tynn
• Profiad gyda systemau HRIS ac offer rheoli achosion.
• Profiad o weithio mewn sefydliad gwasanaethau ar y cyd neu matrics.
• Profiad o weithio gydag Undebau Llafur
Gwybodaeth a Sgiliau
• Gwybodaeth am gyfraith cyflogaeth gyda'r gallu i ddefnyddio’r wybodaeth honno i ddatrys materion yn y gweithle
• Sgiliau dylanwadu a negodi cryf a gafwyd yn ddelfrydol mewn amgylchedd ag undebau
• Yn gallu dehongli a rhoi cyngor ar bolisïau, amodau a thelerau AD
• Sgiliau rheoli amser a threfnu effeithiol
• Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac yn gallu datblygu cysylltiadau gwaith cynhyrchiol gydag amrywiaeth o randdeiliaid
• Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno rhagorol
• Hyblyg ac yn gallu addasu i anghenion a gofynion sy'n newid
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.