Cynorthwyydd Manwerthu/ Caffi
Dyddiad: 2 Awst 2026
Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, cf140bb
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 8641 |
| Math o Waith | Achlysurol |
| Swyddogaeth y Swydd | Hamdden a Chroeso |
| Cwmpas Cyflog | £12.00 -£14.00 |
|
Lleoliad Dyddiad cau ceisiadau |
Llanishen 17 Awst 2026 (23:59) |
Pwy ydyn ni
|
Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy gydol y flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un sy'n dymuno ymuno â Dŵr Cymru. Mae'r safle yn ymfalchïo yn yr adeilad Atyniad Ymwelwyr o'r radd flaenaf gyda bwyty ar gyfer 150, balconi gyda golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau tir a dŵr, man addysgu, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a Chaffi Carlam.
…Dewch i ymuno â'n tîm a gweithio yn yr hafan werdd / las hon sydd lai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Eisiau gweld mwy? Ewch yma: https://lisvane-llanishen.com/cy/ |
Yr hyn y byddwch chi'n gyfrifol amdano
Byddwch yn ymuno â'n tîm gwych ac yn y rôl hon byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau, gan gynnwys:
- Gwasanaethu cwsmeriaid a gweini byrddau
- Gweithredu'r til, taliadau ag arian parod a cherdyn
- Sicrhau bod gwasanaeth cwrtais a chyfeillgar yn cael ei ddarparu i bob cwsmer
- Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r profiad i gwsmeriaid a gynigir
- Arddangos eitemau bwyd ac ailgyflenwi'r cownter
- Sicrhau bod y byrddau a’r holl fannau yn cael eu cadw'n lân a’u bod ar gael i gwsmeriaid
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan y Rheolwr Arlwyo i ddiwallu anghenion y busnes
Amdanoch chi
- Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ag agwedd gadarnhaol, sy’n gyfeillgar, yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain, ac sy'n angerddol am weithio gyda'r cyhoedd!
- Darperir hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl hon, ond os oes gennych unrhyw brofiad o weithio yn y diwydiant gwasanaeth bwyd neu fanwerthu, byddai hynny'n fuddiol.
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
- Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
- Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
- Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
- Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
- Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
- Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
- Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
- Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
- Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
- Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
- Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.