Dadansoddwr Masnachol
Dyddiad: 18 Awst 2026
Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 8945 |
| Math o Waith |
Parhaol a Dros Dro
|
| Swyddogaeth y Swydd | Rheoli Costau |
| Cwmpas Cyflog | £35,833.00 -£39,163.00 |
| Lleoliad | South East Hub |
| Dyddiad cau ceisiadau |
Dydd Sul, 30 Awst 2026 |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Fel dadansoddwr masnachol yn ein Tîm Gwasanaethau Datblygwyr, byddwch yn:
- Cydgysylltu pob mater masnachol a chytundebol yn ymwneud â chwsmeriaid, gan gynnwys cyflwyno cynigion a chytundebau cyfreithiol
- Llunio archebion prynu yn ôl yr angen
- Prosesu anfonebau yn unol â gofynion amserlen y contract perthnasol
- Darparu adroddiadau ar gyfer ceisiadau am dâl a thaliadau i gontractwyr
- Darparu adroddiadau rheoli costau a rovide cost management reporting fel y gofynnir gan reolwyr y Gwasanaethau Datblygwyr
- Sicrhau bod yr holl refeniw yn cael ei dderbyn yn unol â pholisïau adrannol a bod cwsmeriaid yn cael eu hysbysu’n llawn am bob gweithgaredd masnachol, gan gynnwys newidiadau i gwmpas y gwasanaeth a chostau
- Paratoi Cyfrifon Terfynol i’w cymeradwyo o fewn mis (neu 7 diwrnod o gyflwyno ar gyfer cynlluniau Hunan-osod, a thargedau perthnasol rheoliadau eraill) o gwblhad technegol cynlluniau a sicrhau cloi masnachol effeithiol gyda chwsmeriaid
- Cynorthwyo gyda rheoli’r berthynas fasnachol â chwsmeriaid allweddol a darparu adroddiadau o fath ‘datganiad o gyfrifon’ yn dri misol i gwsmeriaid allweddol
- Helpu i ddarparu trosolwg o weithgareddau a gofynion cwsmeriaid i sicrhau’r gwasanaeth cyffredinol gorau
- Darparu adroddiadau misol ar Gynigion a gyflwynwyd, sydd yn yr arfaeth ac a dderbyniwyd; gweithgareddau cwsmeriaid allweddol; risgiau a phroblemau masnachol cwsmeriaid
- Gweithio gyda’r timau Masnachol i sicrhau bod yr holl refeniw / dyled sy’n ddyledus yn cael ei adennill yn briodol
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes
Amdanoch chi
Dealltwriaeth o’r sector datblygu eiddo
- Gwybodaeth ymarferol am gynigion contract a dogfennau cyfreithiol cysylltiedig rhwng cwmnïau cyfleustodau a chwmnïau adeiladu eiddo
- Yn ddelfrydol, profiad o reoli cleientiaid / cyfrifon / refeniw yn y sector cyfleustodau / peirianneg
- Craff yn fasnachol ac yn ariannol
- Sgiliau rheoli cwsmeriaid a rhanddeiliaid da
- Cyfathrebwr rhagorol
- Hynod drefnus ac yn gallu rheoli ffrydiau refeniw a phrosiectau peirianneg / adeiladu niferus ar yr un pryd
Werth ei wybod
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.