Dadansoddwr Rheoliadol (Canlyniadau)
Dyddiad: 20 Hyd 2026
Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9312 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Cyllid |
| Cwmpas Cyflog | £42,786.00 -£48,912.00 |
| Lleoliad | South East Hub |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Mae’r Dadansoddwr Rheoliadol yn cefnogi’r ddarpariaeth o gyflwyniadau a dadansoddiadau rheoliadol cywir a phrydlon sy’n cydymffurfio. Mae’r swydd yn cynorthwyo’r gwaith o ddehongli gofynion rheoliadol, o baratoi cyflwyniadau ac o ddatblygu trywyddau archwilio cadarn. Mae deiliad y swydd yn gwneud gwaith dadansoddi i gefnogi’r broses gwneud penderfyniadau ac yn gweithio gyda thimau ar draws y busnes.
- Cynorthwyo’r gwaith o baratoi, dilysu a chyflwyno adroddiadau rheoliadol, setiau data a thystiolaeth ategol.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol o ofynion rheoliadol, ymrwymiadau perfformiad a rhwymedigaethau rheoli prisiau.
- Dadansoddi setiau data rheoliadol, gan nodi tueddiadau, risgiau, problemau a chyfleoedd, a chynorthwyo’r gwaith o ddatblygu argymhellion.
- Darparu cymorth dadansoddol a rheoliadol i’r busnes, gan gynnwys dehongli gofynion.
- Llunio papurau briffio ac adroddiadau o ansawdd uchel.
- Cynorthwyo gweithgareddau sicrwydd, gan gynnwys archwiliadau mewnol a pharatoi gwybodaeth ar gyfer sicrwydd neu archwiliad allanol.
- Datblygu a chynnal perthynas waith gadarnhaol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad a rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys rheoleiddwyr yn ôl y gofyn.
Amdanoch chi
Mae’r canlynol yn ofynion hanfodol ar gyfer recriwtio i’r swydd:
• Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (e.e. economeg, peirianneg, gwyddor yr amgylchedd, cyfrifyddu, mathemateg, cyllid, neu debyg).
Profiad
• Profiad o gasglu, dilysu a dadansoddi setiau data cymhleth i gefnogi cyflwyniadau rheoliadol neu benderfyniadau busnes.
• Profiad yn paratoi neu’n cyfrannu at adroddiadau ffurfiol, datganiadau neu becynnau tystiolaeth ar gyfer rheoleiddwyr neu grwpiau llywodraethu mewnol.
• Profiad o gydweithredu â pherchnogion data, timau gweithredu ac arbenigwyr pwnc i wella ansawdd data a phrosesau adrodd.
Gwybodaeth a Sgiliau
• Sgiliau dadansoddol a datrys problemau cryf â’r gallu i gwestiynu, dehongli a chysoni data o systemau lluosog.
• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig eglur, yn gallu cynhyrchu dadansoddiadau cryno, sylwebaeth a dogfennau ategol.
• Sylw gofalus i fanylion ag ymwybyddiaeth o ansawdd data, gofynion archwilio a safonau llywodraethu.
• Y gallu i ddatblygu perthynas weithio effeithiol ar draws gwahanol feysydd busnes.
• Sgiliau trefnu cryf â’r gallu i weithio yn unol â therfynau amser yn ystod cylchoedd rheoliadol.
• Y gallu i gynorthwyo cydweithwyr gyda chyfarwyddyd ar ddiffiniadau data, safonau adrodd a disgwyliadau rheoliadol.
Werth ei wybod
Os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â Samuel.Van-Arnold@dwrcymru.com.
Sylwch y gallwn gau’r rôl hon yn gynharach os bydd angen. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol, yn dibynnu ar lefel y diddordeb.
Oherwydd natur y diwydiant, mae’n ofynnol i bob gweithiwr newydd sy’n ymuno â’r busnes gael geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl cynnig y swydd, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol. Ar gyfer rhai rolau, efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae unrhyw gynnig yn amodol ar gwblhau’r holl wiriadau’n foddhaol. Byddwch yn cael rhagor o wybodaeth drwy e-bost ynghylch sut i gwblhau’r gwiriadau hyn ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
- Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
- Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
- Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
- Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
- Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
- Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
- Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
- Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
- Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
- Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
- Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan!
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.