Swyddog Cynllunio Datblygu
Dyddiad: 4 Awst 2026
Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 8934 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £34,566.00 -£40,821.00 |
| Lleoliad | Linea |
| Closing Date |
Dydd Sul, 16 Awst 2026 - 23:59 |
Werth ei wybod
- Gall y rôl hon gael ei lleoli ym Mharc Cinmel neu Linea
- Gweithio hybrid
- Gweithio hyblyg yn bosibl
-
Oherwydd nifer uchel o geisiadau, mae’n bosibl y byddwn yn cau’r hysbyseb swydd hon yn gynnar.
- Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â Matthew.Lord@dwrcymru.com
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
- Fel Swyddog Cynllunio Datblygu yn ein tîm Gwasanaethau Datblygwyr, byddwch chi’n gyfrifol am reoli gweithgarwch sy’n ymwneud â materion cynllunio mewn un rhanbarth yn ein hardal weithredol, megis ymateb i geisiadau cynllunio, ymholiadau cyn cynllunio a chysylltiadau newydd â charthffos yn unol â dyddiadau cau statudol. Er mwyn eich galluogi i wneud hyn, bydd angen i chi weithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws y busnes, gan roi cyngor i’n cwsmeriaid a’u hysbysu am gynnydd.
- Gan ddefnyddio eich gwybodaeth gynllunio, byddwch chi’n sicrhau bod ein buddiannau’n cael eu diogelu bob amser a bod cyn lleied o risgiau â phosibl i’n Cwsmeriaid, ein Gwasanaethau a’r Amgylchedd.
- Ymgymryd â gweithgarwch cynllunio megis ymateb i geisiadau cynllunio, ymholiadau cyn cynllunio a cheisiadau am gysylltiad newydd â charthffos gyda’r bwriad o hwyluso datblygiad tra’n diogelu ein buddiannau ni a lleihau’r risgiau i’n cwsmeriaid a’r amgylchedd.
- Bod yn gyfrifol am sicrhau bod gwaith sydd wedi’i neilltuo yn cael ei gwblhau o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnynt, a chynnal safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid ar yr un pryd. Bydd gwaith yn cael ei neilltuo gan y Swyddog Cynllunio Datblygu Arweiniol neu’r Swyddog Cyswllt Cynllunio i gefnogi’r gwaith o ddarparu Lefelau Gwasanaeth Cenedlaethol y Cynllun.
- Rheoli disgwyliadau gyda rhanddeiliaid allanol sy’n ymwneud â gweithgarwch cynllunio h.y. awdurdod cynllunio lleol, llywodraeth, cyrff rheoleiddio; hyrwyddo swyddogaeth gynllunio fwy rhagweithiol a gwybodus.
- Ymgysylltu â swyddogion mewn ardaloedd awdurdod cynllunio lleol yr ydych yn gyfrifol amdanynt i sicrhau eu bod yn deall ymatebion i ymgynghoriadau cynllunio Dŵr Cymru ac i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at y cyngor a roddir gennym.
- Cyfrannu at astudiaethau dichonoldeb, modelu hydrolig ac astudiaethau cylch dŵr trwy ddarparu gwybodaeth a chymorth perthnasol pan fo angen. Nid yw profiad blaenorol yn y meysydd hyn yn hanfodol, gan y bydd hyfforddiant a chymorth llawn yn cael eu darparu.
- Pan fo angen, rhoi mewnbwn i unrhyw gwynion gan gwsmeriaid.
- Cydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau iechyd a diogelwch cyfredol bob amser wrth gyflawni’r holl weithgareddau.
- Rhoi mewnbwn i adroddiadau ac adolygiadau misol a chymryd rhan ynddynt.
- Cydymffurfio â phrosesau a gweithdrefnau bob amser wrth gyflawni’r holl weithgareddau.
- Gweithio ar y cyd â chydweithwyr yn y tîm cynllunio a’r swyddogaeth rheoli datblygu ehangach i gyflawni dyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion busnes.
Amdanoch chi
- Wedi’ch addysgu i lefel gradd neu lefel gyfatebol mewn Cynllunio Gwlad a Thref neu faes perthnasol tebyg.
- Profiad blaenorol yn y diwydiant dŵr neu broffesiwn cynllunio
- Sgiliau cyfathrebu da – llafar ac ysgrifenedig
- Profiad o reoli rhanddeiliaid
- Y gallu i berfformio fel rhan o dîm
- Y gallu i weithio i ddyddiadau cau tynn o ran rheoleiddio a phrosiectau
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.