Technegydd ICA - Treulio Uwch

Dyddiad: 28 Gorff 2026

Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF24 2RX

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8689                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau
Cwmpas Cyflog £34,566.00 -£40,821.00 
Lleoliad Cardiff East

Dyddiad cau ceisiadau

Dydd Sul, 2 Awst 2026 - 23:59

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

 

Gweithredu a chynnal a chadw gwaith trin slwtsh a pheiriannau cysylltiedig o ddydd i ddydd, gan weithio i safonau y cytunwyd arnynt i sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni ei dargedau iechyd a diogelwch, contractiol, rheoleiddiol, gweithredol ac ariannol. Bydd hyn yn cynnwys:

 

  • Gweithredu a chynnal a chadw sgrinio slwtsh, mewnforion slwtsh, allgyrchyddion, rheoli arogl, proses Cambi™, trin dŵr, boeleri stêm, peiriannau gwres a phŵer cyfunedig (CHPs), proses dreulio, slwtsh uwchwaddod, dad-ddyfrio slwtsh wedi'i hydroleiddio'n thermol ac allforio slwtsh
  • Cymryd rhan mewn rota wrth gefn ac amser gwaith wedi'i gynllunio
  • Cynnal yn rhagweithiol gwaith cynnal a chadw a gwiriadau gweithredol ar amser ac i’r safonau gofynnol ar amrywiaeth o beiriannau  Offeryniaeth, Rheolaeth ac Awtomeiddio (ICA)
  • Rhaglennu Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy (PLCs), telemetreg a'r system Rheolaeth Oruchwylio a Chasglu Data (SCADA) (gan gynnwys PVSS)
  • Cysylltu'n agos â'r Goruchwyliwr Gweithrediadau a'r Gweithredwyr Technegol i sicrhau bod yr holl offerynnau a systemau rheoli yn cael eu cynnal fel nad amherir ar  y gadwyn trin slwtsh
  • Monitro a cheisio sicrhau perfformiad gorau CHPs, cysylltu'n agos â'r Rheolwr CHP a darparwyr cynnal a chadw
  • Cymryd rhan weithredol mewn asesiadau risg, asesiadau COSHH a phob mater iechyd a diogelwch
  • Nodi peiriannau problemus a'r diffygion dilynol, cywiro lle bo'n bosibl ac uwchgyfeirio at y Goruchwyliwr Gweithredoedd fel y bo'n briodol
  • Gweithio'n agos gyda'r Technegwyr Prosesau wrth ddehongli larymau SCADA a chymryd y camau angenrheidiol i leihau methiannau peiriannau a chyflawni’r gwaith o optimeiddio peiriannau
  • Dilyn a chydymffurfio â holl weithdrefnau system rheoli ansawdd (SRhA) sy'n ymwneud â'r peiriant gan gynnwys cydymffurfiaeth â HACCP yn ei chyfanrwydd
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes

Amdanoch chi

 

  • Prentisiaeth mewn disgyblaeth berthnasol ac yn gymwys i lefel HNC mewn Mesur a Rheoli Diwydiannol   
  • Trwydded yrru lawn y DU
  • Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd   
  • Cyfathrebwr a chydlynydd rhagorol   
  • Y gallu i reoli trwyddedau gwaith ar gyfer stêm byw   
  • Sgiliau TG da
  • Yn ymroddedig ac yn gweithio'n galed   
  • Yn gallu asesu risg a mabwysiadu arfer gweithio diogel i ymgymryd â thasgau   
  • Parodrwydd i wneud pethau

Werth ei wybod

 

  • Bydd gofyniad i gymryd rhan mewn rota wrth gefn
  • Os hoffech ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â ni  Steve.Churches@dwrcymru.com

Buddion

 

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

 

Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)

Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn

Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr

Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim

Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd

Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir

Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr

Cynllun beicio i'r gwaith

Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru

Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle

Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein

Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos

Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

 

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

 

 

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

 

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

 

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

 

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.