Technegydd Ymateb Dŵr
Dyddiad: 7 Hyd 2026
Lleoliad: Caerdydd, Cymru, GB, CF3 OLT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9219 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £34,566.00 -£40,821.00 |
| Lleoliad | South East Hub |
| Dyddiad cau ceisiadau |
Dydd Mawrth 13 Hydref 2026 - 23:59 |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
- Monitro ffynonellau data lluosog i nodi problemau ar y rhwydwaith dŵr sy'n effeithio ar gyflenwadau cwsmeriaid neu ansawdd dŵr. Byddwch yn dewis ac yn cydlynu adnoddau addas o'r timau Pod Ymateb / Dosbarthu neu Wrth Gefn fel y bo'n briodol.
- Cydlynu ymateb i'r holl broblemau brys a adroddwyd gan gwsmeriaid neu 3ydd parti.
- Defnyddio systemau corfforaethol a gwybodaeth asedau i frysbennu problemau asedau/rhwydwaith yn dechnegol, nodi cwrs ymateb addas, trefnu a chydlynu timau ymateb. Bydd ein cynlluniau ymateb yn canolbwyntio ar sicrhau bod cyflenwadau yn cael eu hadfer cyn gynted â phosibl, nad oes effaith ar ansawdd dŵr a bod data yn cael ei gasglu i gefnogi gofynion adrodd rheoleiddiol cywir.
- Bydd asesiadau effaith yn cael eu cynnal mewn amser real a bydd angen eu huwchgyfeirio yn unol â sbardunau ymateb i ddigwyddiadau y cytunwyd arnynt. Byddwch yn darparu gwybodaeth dechnegol i Ddadansoddwyr Ymateb Gweithredol a Rheolwyr Shifft mewn perthynas â gweithrediadau rhwydwaith i alluogi gwneud penderfyniadau effeithiol.
- Cynhyrchu a chydlynu cyflwyno cynlluniau ymateb ansawdd dŵr i atal / lliniaru problemau lliw, blas neu arogl ar y dŵr rhag effeithio ar gwsmeriaid. Mae enghreifftiau o gynlluniau yn cynnwys fflysio Cyflymder Isel/Uchel, cyflyru a samplu Ansawdd Dŵr.
- Byddwch yn gweithio ar y cyd â thimau Manwerthu / Gwasanaeth Cwsmeriaid i sicrhau bod unrhyw gwsmeriaid a allai gael eu heffeithio gan y broblem neu ein cynlluniau yn cael gwybod. Sicrhau bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i gwsmeriaid trwy gydol digwyddiad a chysylltu'n uniongyrchol â chwsmeriaid i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein hymateb.
- Cynhyrchu datganiadau Asesiad Risg/Dull sy'n cofnodi ein cynlluniau ymateb ar gyfer gweithrediadau rhwydwaith dŵr a sicrhau bod Diogelwch, Ansawdd ac Iechyd y Cyhoedd bob amser yn flaenllaw yn yr hyn a wnawn.
- Diweddaru systemau corfforaethol gyda'r wybodaeth ofynnol sy'n ymwneud â'n hymateb gan ganiatáu adrodd amserol, cywir o fewn y busnes ac yn erbyn ein mesurau Rheoleiddio.
- Cynnal cyfrifiadau effaith Munudau Cwsmeriaid Coll (CML) yn ystod digwyddiadau i ganiatáu adrodd amser real. Cefnogi unrhyw ddadansoddiad ar ôl y digwyddiad i sicrhau bod adrodd yn gywir.
- Cysylltu'n uniongyrchol â'r Timau Ansawdd Dŵr a Samplu gan sicrhau bod yr holl ofynion gweithdrefnol i samplu yn cael eu bodloni.
- Chwarae rôl allweddol wrth gydlynu cyflawni gweithgareddau rhwydwaith / asedau wedi'u cynllunio sydd â'r potensial i effeithio ar y rhwydwaith, cwsmeriaid a pherfformiad.
- Darparu gwybodaeth ar gyfer adrodd rheoleiddiol ar achosion/digwyddiadau (h.y. digwyddiadau hysbysadwy DWI) ar gyfer hysbysu cychwynnol ac adroddiadau manwl pellach. Cymryd rhan yn y Broses Adolygu Ôl-ddigwyddiad (PIR), cynnal dadansoddiadau ar ôl y digwyddiad a darparu gwybodaeth i sicrhau y gellir dysgu unrhyw wersi a gwneud gwelliannau.
- Cydweithio â thimau gweithredol rheng flaen i sicrhau bod unrhyw beth sy’n cael ei ddysgu o ddigwyddiadau yn cael eu nodi, cynlluniau gwella yn cael eu datblygu a gwybodaeth am asedau perthnasol yn cael ei diweddaru.
- Cefnogi'r Rheolwr Shifft i lunio adroddiadau diweddaru / trosglwyddo shifft a fydd ar gael i'r busnes ehangach.
- Cymryd rhan mewn rota wrth gefn ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a allai fod eu hangen i ddiwallu anghenion y busnes.
Amdanoch chi
- Profiad o weithio mewn rôl weithredol rheng flaen yn y sectorau Diwydiant Dŵr, Cyfleustodau neu Beirianneg
- Mae sgiliau TG a thechnegol da yn hanfodol
- Y gallu i asesu, gwerthuso a blaenoriaethu canlyniadau posibl yn effeithiol i lywio gwneud penderfyniadau
- Y gallu i roi sylw manwl i fanylion, herio a bod yn drylwyr, i sicrhau bod y lefel briodol o gywirdeb yn cael ei chynnal
- Y gallu i gynnal dadansoddiad o ffynonellau data mawr, cymhleth, dod i gasgliad credadwy a chynghori ar ffordd briodol o weithredu
- Sgiliau trefnu da gyda'r gallu i weithio ar eich pen eich hun, o dan bwysau, a blaenoriaethu llwythi gwaith
- Yn gallu delio â rhanddeiliaid allanol mewn ffordd broffesiynol gan hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Dŵr Cymru bob amser
- Chwaraewr tîm sy'n deall pwysigrwydd perchnogi a bod yn atebol
- Awydd cryf i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid
- Y gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol ar draws timau rheoli a sefydliad ehangach er mwyn datblygu amgylchedd gwaith cydweithredol
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ymgymryd a chyfathrebu camau monitro neu adfer priodol yn unol â phrosesau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw
- Safon uchel o lythrennedd cyfrifiadurol a systemau
- Cefndir gwyddonol, peirianyddol neu ddadansoddol
Werth ei wybod
- Patrwm shifft 24 awr
- Lwfans shifft o 25%
- Dim rhaid bod ar ddyletswydd wrth gefn
- Os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â Lee.Highgate@dwrcymru.com
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.