Cynghorydd Effeithlonrwydd Dŵr

Dyddiad: 29 Medi 2026

Lleoliad: Caerfyrddin, Cymru, GB, SA31 2NF

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9212                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau
Cwmpas Cyflog £28,065.00 -£31,887.00 
Lleoliad Ty Tywi
Dyddiad cau ceisiadau
Dydd Sul, 11 Hydref 2026 - 23:59

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

 

 

  • Byddwch yn cyflwyno ein darpariaeth Rhaglen Effeithlonrwydd Dŵr, mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Ymweliadau â’r Cartref ynghylch Effeithlonrwydd Dŵr; Ymweliadau ag Ysgolion, ac adeiladau addysgol / cyhoeddus eraill, ynghylch Effeithlonrwydd Dŵr
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid / addysg ar Effeithlonrwydd Dŵr
  • Cynrychioli Dŵr Cymru yn y gymuned (yn ôl y galw), i hyrwyddo Effeithlonrwydd Dŵr yn ogystal â Chynlluniau cymorth dŵr eraill Cymru
  • Adrodd ar eich allbynnau cyflenwi trwy SAP.
  • Gosod cynhyrchion effeithlonrwydd dŵr sylfaenol o fewn eiddo cwsmeriaid (gynnau pibellau dyfrhau, pennau cawodydd).
  • Datblygu ffyrdd newydd o addysgu ac ymgysylltu â sylfaen ein cwsmeriaid ynghylch Effeithlonrwydd Dŵr.
  • Cefnogi lle bo angen, ein llif gwaith Gollyngiadau Preifat a/neu raglen Cartref. 
  • Cefnogi Gweithrediadau Maes Cwsmeriaid, i ymgysylltu â gwaith cydweithredu ledled y diwydiant a’i gefnogi, gan gynnwys cystadlaethau Arloesi OFWAT.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill, yn ôl y galw,  sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes,

Amdanoch chi

 

 

  • Profiad amlwg o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol   
  • Yn frwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd   
  • Yn frwdfrydig, gallu cymell eich hun, llygad craff am fanylion, ac yn gallu dangos sgiliau trefnu rhagorol   
  • Yn gallu gweithio’n unol â dyddiadau cau diffiniedig a blaenoriaethu’r llwyth gwaith er mwyn bodloni’r dyddiadau cau hynny  
  • Ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn enwedig o ran ein heriau Adnoddau Dŵr, ac ysgogwyr Effeithlonrwydd Dŵr

Werth ei wybod

 

 

  • Darperir fan cwmni
  • Oriau gwaith 8am-4pm.
  • Bydd y rôl yn cynnwys Abertawe a Gorllewin Cymru gyfan

Buddion

 

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni

 

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.