Borthor / Gweithredwr Cyfleusterau

Dyddiad: 5 Awst 2026

Lleoliad: Casnewydd, Cymru, GB, NP108FZ

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8950                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Cyfleusterau
Cwmpas Cyflog £24,519.00 -£26,971.00 
Lleoliad South East Hub
Dyddiad cau ceisiadau 
Dydd Mawrth, 5 Awst 2026 - 23:59

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Ymunwch â’n tîm cyfleusterau fel porthor – byddwch yn rhan o rywbeth mwy!

Yn Dŵr Cymru, rydym yn credu bod pob rôl yn chwarae rhan hanfodol wrth greu gweithle diogel, croesawgar ac effeithlon. Rydym yn chwilio am Borthor / Gweithredwr Cyfleusterau sy’n mwynhau amrywiaeth, gwaith tîm, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd.

Mae hyn yn ymwneud â mwy na symud parseli – mae’n ymwneud â chefnogi pobl, creu mannau cyfforddus, a sicrhau bod ein swyddfeydd yn gweithredu’n ddidrafferth. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’n tîm rheoli cyfleusterau, gan helpu cydweithwyr ledled y busnes a chyfrannu at amgylchedd cadarnhaol a diogel.

Crynodeb o’r dyletswyddau

  • Dosbarthu post a pharseli yn gywir ac yn ofalus.
  • Helpu i osod ystafelloedd cyfarfod fel bod timau yn gallu cydweithio’n effeithiol.
  • Cefnogi symud swyddfeydd a threfnu dodrefn – gan sicrhau bod mannau yn gweithio i bobl.
  • Cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch i gadw pawb yn ddiogel.
  • Cynorthwyo gyda’r broses wacáu os bydd tân a chynlluniau tymhorol fel Rheolaeth Gaeaf.
  • Cyflawni tasgau cynnal a chadw ac atgyweirio ysgafn – mae pob diwrnod yn wahanol!

Cyfrifoldebau allweddol

  • Gweithredu fel cyswllt rheng flaen allweddol, gan ddarparu gwasanaeth croesawgar a phroffesiynol i gydweithwyr, cwsmeriaid ac ymwelwyr.
  • Rheoli ymwelwyr sy’n cyrraedd, gwasanaethau derbynfa ac ymholiadau dros y ffôn.
  • Cefnogi’r gwaith o ddarparu Gwasanaethau Cyfleusterau o ddydd i ddydd, ledled safleoedd Dŵr Cymru.
  • Meithrin perthnasoedd cryf â darparwyr gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau i gefnogi darparu gwasanaethau effeithiol.
  • Cynorthwyo gyda gweithgareddau Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys gweithdrefnau tân, gwacáu, archwiliadau o’r safle, cymorth cyntaf a threfniadau diogelwch.
  • Cydlynu archebu ystafelloedd cyfarfod a gofynion lletygarwch ledled safleoedd y mae Cyfleusterau yn eu rheoli.
  • Trin post sy’n cyrraedd ac yn gadael, parseli, gwasanaethau negesydd a danfoniadau arbennig.
  • Cefnogi’r Rheolwr Cyfleusterau gydag archwiliadau o’r swyddfa, gweinyddu cardiau adnabod, gweithgareddau Desg Gymorth Cyfleusterau a dyletswyddau eraill sy’n gysylltiedig â Chyfleusterau.

Pam y byddwch chi wrth eich bodd â’r rôl hon

  • Ysbryd tȋm: Byddwch chi’n rhan o dîm cefnogol, cyfeillgar sy’n gwerthfawrogi cydweithredu.
  • Amrywiaeth: O helpu gyda digwyddiadau i sicrhau bod ein mannau’n edrych yn wych, mae rhywbeth newydd i’w wneud bob dydd.
  • Effaith: Mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud yn helpu cydweithwyr i deimlo’n ddiogel, yn gyfforddus ac yn barod i wneud eu gorau.
  • Hyfforddi a datblygu: Byddwn ni’n rhoi arweiniad a chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd.

Amdanoch chi

Werth ei wybod

  • Y patrwm shifftiau ar gyfer y rôl hon yw dydd Llun i ddydd Gwener 10.00am - 18.00pm.
  • Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb ar 19 Awst 2026.
  • I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch y rôl hon, cysylltwch â: michael.gerlach@dwrcymru.com

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

    • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
    • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
    • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
    • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
    • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
    • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
    • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
    • Cynllun beicio i'r gwaith
    • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
    • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
    • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
    • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
    • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.