Arolygydd
Dyddiad: 13 Awst 2026
Lleoliad: Llangefni, Cymru, GB, LL77 7PQ
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 8975 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £28,065 - £31,887 |
| Lleoliad | Cefni |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Cyfrannu at ddull gweithredu i ddatrys problemau Dosbarthu/Gollyngiadau posibl neu wirioneddol er mwyn sicrhau bod lefel yr anghyfleustra i’r cwsmer cyn lleied â phosibl. Bydd hyn yn cynnwys:
• Dangos parodrwydd brwd i weithio’n barhaus fel rhan o dîm
• Cyflawni a chynnal targedau gollyngiadau’r ardal
• Ymateb a gweithio ochr yn ochr â’r holl adrannau eraill yn ystod digwyddiadau Arian ac Aur
• Sicrhau bod yr holl ddiweddariadau GIS yn cael eu cyflwyno i’r swyddfa GIS i alluogi Dŵr Cymru i gynnal gwybodaeth o ansawdd uchel
• Sicrhau bod targedau gollyngiadau Dŵr Cymru yn cael eu bodloni gan ddefnyddio technegau amrywiol i leihau gollyngiadau
• Sicrhau gweithrediad priodol a chydymffurfiad â holl weithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni, â diogelwch cydweithwyr a chwsmeriaid mewn golwg bob amser
• Trafod effeithiol â chydweithwyr yn y tîm dosbarthu yn ystod arferion gwaith arferol ac ar adegau o argyfwng, gan ganfod atebion rhwydwaith/gollyngiadau
• Gofalu bod y manylion cywir yn cael eu cofnodi yn y gwahanol systemau TG yn ddyddiol
• Sicrhau y cydymffurfir ag arferion gweithio cywir ar y safle yn ystod a’r tu allan i oriau gwaith
• Cyflawni archwiliadau gweledol
• Cynrychioli Dŵr Cymru trwy gylch oes prosiectau, gan gynorthwyo’r partner yn ôl yr angen trwy ddatblygiad y prosiect, cynllunio, cymeradwyaeth a phrosesau statudol
• Ymdrin â sefyllfaoedd sydd weithiau’n anodd mewn ffordd gyfeillgar a phroffesiynol, tra’n ceisio canfod ateb cyflym
• Gwneud argymhellion ar gyfer gwella’r rhwydwaith
• Trefnu eich amser eich hun yn effeithiol, gan ymdrin â gwaith mater o drefn â chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibl, asesu blaenoriaethau yn eich maes gwaith a rheoli’r blaenoriaethau hynny
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl y gofyn i ddiwallu anghenion y busnes
Amdanoch chi
• Trwydded yrru lawn gyfredol
• Lefel dda o brofiad gwasanaeth cwsmeriaid
• Hyddysg mewn cyfrifiadura
• Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
• Sgiliau rhyngbersonol da
• Gwybodaeth dda am y diwydiant dŵr
• Sgiliau cyfathrebu effeithiol
• Y penderfyniad a’r uchelgais i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid
• Dealltwriaeth gadarn o becynnau meddalwedd Microsoft gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i Excel, Word
• Parodrwydd i weithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm yn ôl y gofyn
• Y gallu i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau da gydag adrannau mewnol, partneriaid y cwmni a chontractwyr
• Gallu i weithio i derfynau amser tynn ac o dan amgylchiadau anodd, tra’n dal i ddarparu gwasanaeth diduedd i’n cwsmeriaid
Werth ei wybod
• Bydd gofyniad i gymryd rhan mewn rota wrth gefn
• Os hoffech ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Richard.Jones2@dwrcymru.com
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.