Interniaeth i Athro Athrawes Newydd Gymhwyso
Dyddiad: 17 Awst 2026
Lleoliad: Pontypridd, Cymru, GB, CF37 4WX
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9032 |
| Math o Waith | Dros Dro |
| Swyddogaeth y Swydd | Adnoddau Dynol a Chyfathrebu |
| Cwmpas Cyflog | £31,395 |
| Lleoliad | Cilfynydd |
| Dyddiad Cau | 6ed o Fedi |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Meithrin cymunedau llewyrchus trwy ddarparu gwasanaethau dŵr o safon ryngwladol yw gweledigaeth Dŵr Cymru. Er mwyn creu cymunedau llewyrchus, rhaid i genedlaethau’r dyfodol fod â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i wneud dewisiadau gwybodus am y byd sydd o’u cwmpas. Trwy ein rhaglen addysg, rydyn ni’n helpu pobl ifanc i ddeall rôl dŵr yn ein bywydau, ein cymunedau a’r amgylchedd - wrth archwilio sut y gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr. Mae ein rhaglen addysg wedi bod yn rhedeg ers dros 25 mlynedd, ac mae dros 900,000 o ddisgyblion wedi chwarae rhan yn ein sesiynau.
Casgliad diweddar Busnes yn y Gymuned (BITC) oedd ei bod hi’n amlwg fod Dŵr Cymru’n creu gwerth cymdeithasol trwy eu gwaith addysg yn y gymuned gan greu buddion diriaethol – ac yn cael effaith ar y bobl hynny sy’n cymryd rhan yn y rhaglen trwy godi ymwybyddiaeth am faterion dŵr, gan gynnwys cadw pibellau’n glir, defnyddio adnoddau a bioamrywiaeth.
Ein huchelgais yw parhau i addysgu a hysbysu cynifer o blant â phosibl ar draws ein hardal weithredu am ddŵr ac arferion da o ran dŵr.
Mae ein tîm addysg yn cynnwys athrawon a phroffesiynolion addysg sy’n angerddol dros helpu i addysgu’r cwricwlwm trwy weithgareddau dysgu ymarferol sy’n seiliedig ar brofiadau. Mae’r tîm yn cynorthwyo dros 80,000 o ddisgyblion y flwyddyn yn ein Canolfannau Darganfod a thrwy fynd allan i ymweld ag ysgolion. Rydyn ni’n cynnig cyfle bendigedig i Athro/Athrawes Newydd Gymhwyso ymuno â’n Tîm Addysg am interniaeth 12 mis o hyd, gan ein helpu ni i ysbrydoli disgyblion ar draws Cymru wrth ddatblygu eu harferion dysgu eu hunain mewn lleoliad unigryw mewn diwydiant.
Beth fydd eich cyfrifoldebau:
- Darparu’r rhaglen addysg trwy gyflawni ymweliadau ag ysgolion ac yn ein canolfannau addysg. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau, gweithdai a gwersi amgylcheddol yn yr awyr agored.
- Cydgysylltu ag ysgolion a sefydliadau addysg er mwyn helpu i reoli manylion bwcio ysgolion a gweithgareddau addysgol.
- Datblygu adnoddau a gweithgareddau newydd sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac ymgyrchoedd allweddol y busnes.
- Helpu i ddarparu ymweliadau addysg diogel yng Nghanolfan Addysg Cilfynydd.
- Helpu i gyflawni prosiectau a phartneriaethau rhanbarthol er mwyn meithrin gwerth cymdeithasol ychwanegol yn yr ardaloedd lle’r ydyn ni’n gweithio.
Amdanoch chi
Rydyn ni’n chwilio am Athro/Athrawes Newydd Gymhwyso sy’n frwdfrydig, yn angerddol dros ysbrydoli disgyblion, ac sy’n awyddus i ehangu eu profiad dysgu trwy weithio yn y diwydiant dŵr. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn gallu gweithio’n annibynnol a chydweithio ag eraill, ac yn fodlon dysgu yn rhan o dîm addysg bach. Mae’r rôl yma’n cydweithio’n agos â’r tîm cyfathrebu ehangach hefyd, sy’n gweithredu ar draws y busnes i gyd.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad:
- Statws Athro/Athrawes Newydd Gymhwyso
- Hyderus wrth ddarparu gweithgareddau dysgu difyr ar gyfer disgyblion
- Brwdfrydedd dros ddysgu yn yr awyr agored, trwy brofiadau ac ar sail y cwricwlwm
- Gwybodaeth am Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru
- Ymwybyddiaeth am ystyriaethau iechyd a diogelwch wrth weithio gyda disgyblion
- Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r ddwy interniaeth sy’n cael eu hysbysebu
Werth ei wybod
Mae’r interniaeth yn gyfle i sbarduno eich gyrfa addysgu. Mae’n cynnwys:
- Interniaeth am gyfnod penodol o 21 Medi 2026 i 31 Awst 2027
- Profiad datblygu strwythuredig ar draws ysgolion, canolfannau addysg a lleoliadau yn y gymuned
- 27 diwrnod o wyliau blynyddol
- Cyflwyniad llawn, hyfforddiant a chymorth parhaus gan y tîm addysg
- Cyfle i ddatblygu arferion addysgu mewn lleoliad unigryw yn y byd diwydiant
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.