Dyddiad: 19 Hyd 2026

Lleoliad: Rhaeadr Gwy, Cymru, GB, LD65HP

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Job Requisition Number                              9432                                                                              
Work Type Parhaol
Job Function Hamdden a Chroeso
Salary Range £26,200.00 / Annum

Base

Closing Date

Elan Valley  (Postcode LD6 5HP)

Please apply ASAP - we will review applications on a weekly basis until the role is filled with a suitable match.

 

Pwy ydyn ni

Cogydd
 

Oeddech chi'n gwybod bod gennym safle atyniad ymwelwyr yng Nghwm Elan[HS1]  sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn?  Mae’r safle’n cynnwys caffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy'n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr.  Dewch i ymuno â'n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o'r safleoedd harddaf ym Mhowys.  Eisiau gweld mwy?  Cliciwch yma[HS2]  i edrych ar ein gwefan - www.elanvalley.org.uk[HS3] 

 

Mae Cwm Elan[HS4]  wedi'i leoli yn sir Powys yng nghanolbarth Cymru, ychydig oriau yn unig o Birmingham a Chaerdydd.  Gellir ei gyrraedd yn hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da.

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth greu profiad gwych i bawb sy’n ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan.

Gan weithio’n agos gyda Goruchwyliwr a Rheolwr y Caffi, byddwch yn helpu i sicrhau bod cegin y caffi’n rhedeg yn esmwyth ac yn gweini bwyd ffres o ansawdd uchel y gall ymwelwyr ei fwynhau fel rhan o’u diwrnod gyda ni.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd yr awenau yn y gegin pan fydd y Goruchwyliwr i ffwrdd, gan gynnal safonau uchel o ran ansawdd bwyd, hylendid a gwasanaeth.

 

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Paratoi, coginio a gweini prydau o ansawdd uchel, gan ddilyn ein safonau cytunedig a’n targedau cost.
  • Gweithio’n agos gyda gweddill tîm y caffi i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth a helpu i greu amgylchedd tîm cadarnhaol.
  • Darparu gwasanaeth cyfeillgar ac eithriadol a helpu i greu profiad gwych i’n hymwelwyr.
  • Ymfalchïo mewn cynnal cegin ddiogel, lân a threfnus, gan sicrhau bod gweithdrefnau diogelwch bwyd yn cael eu dilyn bob amser.
  • Meithrin gwybodaeth dda am ein bwydlenni ac alergenau bwyd er mwyn i chi allu helpu i ddarparu profiad diogel a phleserus i bob ymwelydd.
  • Cymryd rhan mewn cynllunio bwydlenni a chefnogi digwyddiadau yn y Ganolfan Ymwelwyr.
  • Helpu i reoli stoc ac archebu cyflenwadau er mwyn sicrhau bod gan y gegin bopeth sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth llwyddiannus.

Amdanoch chi

Cymwysterau Hanfodol

  • Modd o deithio i’r safle 5 diwrnod yr wythnos gan ddefnyddio eich cludiant eich hun neu drafnidiaeth gyhoeddus (cod post LD6 5HP).

Profiad Hanfodol

  • Profiad blaenorol amlwg o baratoi bwyd.
  • Profiad o weithio mewn cegin brysur fel cogydd commis neu gogydd.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid a chydweithwyr.
  • Y gallu i fod yn drefnus a dilyn prosesau.

Werth ei wybod

 

  • Gweithio ar sail rota o ddydd Llun i ddydd Sul gydag oriau posibl rhwng 8.30am a 6.00pm (i gwmpasu diwrnod gwaith 8 awr o hyd)
  • Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein hamseroedd prysuraf a bydd mwy o oriau ar gael bryd hynny
  • Rhaid gallu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â victoria.hadnett@dwrcymru.com

 

Sylwer, efallai y byddwn yn cau'r rôl hon yn gynt os bydd angen.  Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. 

 

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.  Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl wiriadau.  Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.

Buddion

Rydym yn cynnig manteision gwych, gan gynnwys:  

 

    · Cynnydd blynyddol yn y cyflog byw

    · Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr 

    · Darperir hyfforddiant a gwisg

    · Lleoliad gwaith hardd

    · Oriau gweithio hyblyg (ar gais)

 

Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ei amgylchedd hardd yn bwysig iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT

© Dŵr Cymru Cyf 2019.