Cynorthwyydd Manwerthu/ Caffi

Dyddiad: 15 Hyd 2026

Lleoliad: Rhaeadr Gwy, Cymru, GB, LD6 5HP

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9322                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso
Cwmpas Cyflog £25,949.00

Lleoliad

Dyddiad cau ceisiadau  

 

Elan Valley (LD6 5HP)

Gwnewch gais cyn gynted â phosibl – byddwn yn adolygu ceisiadau’n wythnosol nes bod y rôl wedi’i llenwi gan ymgeisydd addas.

 

Pwy ydyn ni

 

Oeddech chi'n gwybod bod gennym safle atyniad ymwelwyr yng Nghwm Elan[HS1]  sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn?  Mae’r safle’n cynnwys caffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy'n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr.  Dewch i ymuno â'n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o'r safleoedd harddaf ym Mhowys.  Eisiau gweld mwy?  Cliciwch yma[HS2]  i edrych ar ein gwefan - www.elanvalley.org.uk[HS3] 

 

Mae Cwm Elan[HS4]  wedi'i leoli yn sir Powys yng nghanolbarth Cymru, ychydig oriau yn unig o Birmingham a Chaerdydd.  Gellir ei gyrraedd yn hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da.

 

Buddion

Rydym yn cynnig manteision gwych, gan gynnwys:  

 

    · Cynnydd blynyddol yn y cyflog byw

    · Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr 

    · Darperir hyfforddiant a gwisg

    · Lleoliad gwaith hardd

    · Oriau gweithio hyblyg (ar gais)

 

Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ei amgylchedd hardd yn bwysig iddo.

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Fel Cynorthwyydd Arlwyo, bydd gofyn i chi wneud y canlynol: 

 

  1. Gweithio yn unol â gweithdrefnau priodol i sicrhau diogelwch pob unigolyn ar y safle.
  2. Cysoni incwm dyddiol â derbyniadau til.
  3. Gweini bwyd a diod i gwsmeriaid.
  4. Sicrhau bod byrddau yn lân ac ar gael i gwsmeriaid eu defnyddio.
  5. Dyletswyddau glanhau cyffredinol yn y gegin a'r ardaloedd storio.
  6. Coginio i gydweithwyr a gweini prydau poeth yn ystod oriau amser brecwast a chinio.  

Amdanoch chi

  • Cymhwyster Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd yn ddelfrydol
  • Profiad ym maes Arlwyo / Manwerthu / Lletygarwch
  • Profiad ymarferol ym maes Iechyd a Diogelwch   
  • Gwybodaeth neu arbenigedd ym maes gwasanaeth cwsmeriaid manwerthu
  • Gweithio gyda'r cyhoedd   
  • Y gallu i weithio ar eich menter eich hun   
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg   
  • Ymwybyddiaeth fasnachol
  • Sgiliau rhifedd / gweithredu til 

 

Werth ei wybod

 

  • Gweithio ar sail rota o ddydd Llun i ddydd Sul gydag oriau posibl rhwng 8.30am a 6.00pm (i gwmpasu diwrnod gwaith 8 awr o hyd)
  • Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein hamseroedd prysuraf a bydd mwy o oriau ar gael bryd hynny
  • Rhaid gallu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â victoria.hadnett@dwrcymru.com

 

Sylwer, efallai y byddwn yn cau'r rôl hon yn gynt os bydd angen.  Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. 

 

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.  Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl wiriadau.  Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.

 

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.