Goruchwyliwr Bwyd

Dyddiad: 5 Awst 2026

Lleoliad: Rhaeadr Gwy, Cymru, GB, ld65hp

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Job Requisition Number                              8615                                                                              
Work Type Parhaol
Job Function Hamdden a Chroeso
Salary Range £27,100.00 per annum

Base

Closing Date

Elan Valley (Postcode: LD65HP) 

Please apply ASAP - we will review applications on a weekly basis until the role is filled with a suitable match.

 

Pwy ydyn ni

 

Oeddech chi’n gwybod bod gennym safle atyniad ymwelwyr yng Nghwm Elan hefyd sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn? Ar y safle mae yna gaffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy’n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr. Dewch i ymuno â’n tîm brwdfrydig a gweithio ar un o’r safleoedd harddaf ym Mhowys. Eisiau gweld mwy? Cliciwch yma i edrych ar ein gwefan https://elanvalley.org.uk/cy/home/

 

Mae Cwm Elan wedi’i leoli yn sir Powys yng nghanolbarth Cymru, dim ond ychydig oriau o Birmingham a Chaerdydd. Gellir ein cyrraedd yn hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy lle mae gan y dref wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus da.

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

 

Goruchwylio’r gegin yn bennaf, a chefnogi goruchwyliwr blaen y tŷ i sicrhau bod bwyd o ansawdd rhagorol yn cael ei ddarparu, gan gynnal amgylchedd diogel i bawb ar y safle hefyd. Bydd hyn yn cynnwys:

 

  • Paratoi, coginio a gweini prydau, rheoli a threfnu cynorthwywyr cegin i ddarparu bwyd o ansawdd uchel
  • Sicrhau diogelwch pawb ar y safle
  • Archebu holl gyflenwadau’r gegin a nwyddau i’w hailwerthu gan gyflenwyr dynodedig
  • Cynnal holl gofnodion HACCP y gegin bob amser ac i’r safon ofynnol
  • Goruchwylio a nodi anghenion hyfforddi cydweithwyr i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
  • Ymdrechu i ddatblygu a gwella’r profiad a gynigir i gwsmeriaid
  • Sicrhau bod y gwasanaeth yn y caffi a’r ardal fanwerthu yn cael ei gynnal i safon uchel
  • Cynnal safonau hylendid bwyd y gegin, yr ardal fanwerthu a’r bwyty a sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n lân ac yn daclus yn unol â gweithdrefnau diogelwch bwyd Dŵr Cymru
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes
  • Mae hon yn rôl weithredol.

Amdanoch chi

Cymwysterau, gwybodaeth, profiad a sgiliau hanfodol

 

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a chadarnhaol i ymuno â’n tîm!

 

 

  • Dealltwriaeth dda o MS Office a phrofiad o ddefnyddio systemau man gwerthu (POS)
  • Gwiriad DBS boddhaol
  • Profiad ymarferol o iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd mewn atyniad ymwelwyr neu amgylchedd manwerthu neu fwyty
  • Profiad o weithio gyda’r cyhoedd
  • Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
  • Profiad o wasanaeth cwsmeriaid ym maes Arlwyo/Manwerthu/Lletygarwch
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun

Werth ei wybod

  • Darperir gwisg
  • Tîm cyfeillgar mewn busnes newydd gyda chyfleoedd cyffrous i ddatblygu gyrfa

 

Patrwm gweithio

 

  • 37 awr dros 5 diwrnod ym mhob 7
  • Patrymau shifft arferol: naill ai 8.30am-4.30pm neu 10am-6.30pm (gallwn ystyried hyblygrwydd)

 

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Victoria.Hadnett@dwrcymru.com

 

 

Sylwer, efallai y byddwn yn cau’r rôl hon yn gynt os bydd angen. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb.


Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy’n ymuno â’r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni pob gwiriad. Byddwch yn cael mwy o wybodaeth am sut i gwblhau’r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.

Buddion

Mae gennym fanteision gwych, gan gynnwys:

 

· Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau ymwelwyr

· Darperir hyfforddiant llawn a gwisg

· Lleoliad gweithio hardd

· Oriau gweithio hyblyg

 

Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ein hamgylchedd hardd yn bwysig iddo.

 

 

Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT

© Dŵr Cymru Cyf 2019.