Gweithredwr Proses Trin Dŵr Gwastraff
Dyddiad: 11 Medi 2026
Lleoliad: Trefynwy, Cymru, GB, NP25 4LG
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9223 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £28,065.00 |
| Lleoliad | Monmouth |
| Dyddiad cau ceisiadau |
Dydd Sul, 20 Medi 2026 - 23:59 |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Ar draws ein rhanbarth mae gennym 833 o safleoedd trin dŵr gwastraff, byddwch yn gyfrifol am weithredu a chynnal a chadw sawl un o'n Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff a gorsafoedd pwmpio carthion cysylltiedig yn unol â thrwyddedau amgylcheddol i ofynion Systemau Rheoli Ansawdd ac Iechyd a Diogelwch y cwmni. Bydd hyn yn cynnwys
- Cymryd cyfrifoldeb am weithredu safleoedd yn unol â thrwyddedau amgylcheddol i ddiogelu'r amgylchedd; cynnal a chadw cyffredinol yr offer a’r safle, cymryd samplau elifiant i fonitro a gwella perfformiad biolegol
- Cymryd cyfrifoldeb am ganfod a lle bo'n berthnasol ymgymryd â gwaith ymatebol yn ôl yr angen. Nodi gwaith ymatebol ar gyfer offer pan fo angen a chysylltu â thîm crefft aml-ddisgyblaeth i hwyluso atgyweiriadau
- Nodi risgiau llygredd posibl o'n hasedau, cymryd mesurau i atal llygredd, a’i uwchgyfeirio pan fo angen
- Cysylltu a chydlynu gyda Goruchwyliwr yr ardal ac aelodau'r tîm ar weithgareddau gweithredu a gwelliant parhaus ar gyfer yr ardal
- Cymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch personol a chydweithwyr trwy gydymffurfio â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch y cwmni
- Deall a chadw at ofynion system ansawdd i sicrhau cydymffurfiaeth archwilio
- Cymryd perchnogaeth o safleoedd, sicrhau bod safonau cynnal a chadw yn cael eu cynnal a diffygion yn cael eu cofnodi
- Yn barod i ddatblygu a dysgu o fewn y rôl a chael yr hyblygrwydd a'r cymhwysedd i weithredu a chynnal nifer o safleoedd
- Cymryd rhan mewn trefniadau a dirprwyo mewn ardal weithredu pan fo gwyliau blynyddol a salwch
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes
- Bod yn rhan o rota wrth gefn y tu allan i oriau gwaith
Amdanoch chi
- Yn frwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
- Ymwybyddiaeth o gyrff rheoleiddio fel Asiantaeth yr Amgylchedd/CNC
- Yn gallu defnyddio systemau cyfrifiadurol
- Angerddol am ein hamgylchedd awyr agored a diogelu ein hamgylchedd
- Chwaraewr tîm, sy'n barod i gymryd rhan yn yr holl ofynion hyfforddi angenrheidiol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl
Werth ei wybod
- Gwaith teithiol aml-safle o fewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, dim gweithio gartref
- Yn gweithio 1 penwythnos ym mhob 4 (8 awr ar ddydd Sadwrn ac 8 awr ar ddydd Sul), a 260 awr o amser gwaith wedi'i gynllunio sydd heb ei neilltuo, gyda'r potensial i enn
-
Darperir Cerbyd Cwmni
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Pwy ydyn ni
Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu da ac yn mwynhau cydweithio ag amrywiaeth o gwsmeriaid? Oes gennych chi ddealltwriaeth o'r broses o drin Dŵr Gwastraff? Byddwch chi'n gwneud y canlynol fel rhan o'r rôl hon: - Cynnal lefelau da o stoc a phrynu stoc yn ôl y gofyn gan ddefnyddio system TG fewnol, gan fod yn ymwybodol o gyfyngiadau cyllidebau.
- Rhoi cymorth i gydweithwyr a chontractwyr allanol sy'n gweithio ar y safle, gan sicrhau ansawdd ac Iechyd a Diogelwch.
- Cynllunio gwaith gyda goruchwylwyr a chydweithwyr eraill er mwyn sicrhau nad yw'r broses a gynlluniwyd i gau safle yn amharu ar wasanaethau.
- Bod yn rhan o'r rotas gwyliau a chyflenwi absenoldebau oherwydd salwch.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.