Inspector
Dyddiad: 15 Medi 2026
Lleoliad: Y Rhyl, Cymru, GB, LL18 5TQ
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9224 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £31,395.00 -£35,682.00 |
| Lleoliad | Kinmel Park |
| Dyddiad Cau | 28 Medi |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Mae ein rhaglen Cartref yn helpu cwsmeriaid i nodi a datrys gollyngiadau mewnol cyffredin, fel toiledau diffygiol, gan eu haddysgu sut i ddefnyddio dŵr yn fwy effeithlon. Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi'r gwaith o gyflawni rhaglen Cartref drwy wneud mân atgyweiriadau plymio, hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r angen i arbed dŵr, a gosod cynhyrchion arbed dŵr. Byddwch hefyd yn cyfrannu at ddatblygu, profi a chyflawni ein mentrau arbed dŵr, gan fynd ati i hyrwyddo yr hyn sydd gan Cartref i’w gynnig yn fewnol ac i'n cwsmeriaid. Mae ein cwsmeriaid yn amrywio o gwsmeriaid domestig arferol a rhai annomestig. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys:
• Prif gyfrifoldebau:
• Yn gyfrifol am wneud gwaith atgyweirio plymio mewn eiddo domestig ac annomestig (e.e. trwsio toiled, tap a chafn) sy'n cyd-fynd ag egwyddorion Cartref mewn modd diogel a chymwys sy'n darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
• Darparu addysg i gwsmeriaid sy'n newid ymddygiad ar effeithlonrwydd dŵr i annog gostyngiad yn y galw gan gwsmeriaid ac ysgogi defnydd effeithlon o ddŵr gan ein cwsmeriaid.
• Gosod cynhyrchion arbed dŵr sylfaenol o fewn eiddo cwsmeriaid (gynnau pibellau dŵr, pennau cawod) ar ymweliadau arbed dŵr.
• Cynrychioli Dŵr Cymru yn y gymuned (ad-hoc), i hyrwyddo Arbed Dŵr yn ogystal â chynlluniau cymorth eraill Dŵr Cymru.
• Adrodd ar eich allbynnau cyflawni trwy ein system gorfforaethol mewn modd gywir sy’n cydymffurfio.
• Adolygu fideos adroddiadau cwsmeriaid a diweddaru systemau corfforaethol mewn modd amserol.
• Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ffitiadau Dŵr) (1999)).
• Cefnogi ein ffrwd waith Gollyngiadau Preifat a/neu raglen Cartref lle bo angen.
• Cymryd rhan mewn patrwm gweithio 5 diwrnod i fodloni gofynion ein cwsmeriaid.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes.
• Gweithredu fel pwynt cychwynnol ar gyfer uwchgyfeirio/cymorth ar faterion technegol ac ymholiadau gan gwsmeriaid i arolygwyr eraill o fewn y tîm a thimau ehangach.
• Sicrhau eich bod yn cydymffurfio â holl Weithdrefnau Iechyd a Diogelwch y cwmni gan ystyried eich diogelwch eich hun, cydweithwyr, contractwyr a chwsmeriaid bob amser ac ymgymryd â dyletswyddau Iechyd a Diogelwch ychwanegol (e.e. Sgyrsiau Diogelwch, Sesiynau Briffio, ac ati.)
• Cyflawni a chynnal eich achrediad Water Safe a sicrhau eich bod yn dilyn yr holl hyfforddiant gorfodol arall gan y cwmni.
• Darparu safon uchel o wasanaeth i gwsmeriaid yn unol â gwerthoedd ein cwmni.
Amdanoch chi
- 5 TGAU â graddau A*- C (neu gymhwyster cyfatebol) gan gynnwys Saesneg a Mathemateg neu brofiad mewn rhwydweithiau dosbarthu dŵr
- Sgiliau Rhyngbersonol Da e.e. meithrin perthynas, gwrando'n effeithiol ar eraill
- Sgiliau datrys problemau rhagorol.
- Cymhwyster Plymio (NVQ 2 neu gyfwerth)
- Sgiliau cyfathrebu da e.e. clir a chryno
- Sgiliau TG gan gynnwys pecynnau Microsoft Office
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
• Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
• Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
• Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
• Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
• Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
• Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
• Cynllun beicio i'r gwaith
• Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
• Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
• Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig."
Pwy ydyn ni
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo."
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.