Rheolwr Contractau - Mân Waith

Dyddiad: 28 Gorff 2026

Lleoliad: Y Rhyl, Cymru, GB, LL18 5TQ

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8732                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau
Cwmpas Cyflog £47,492.00 -£54,618.00 
Lleoliad Kinmel Park

 

Yr hyn y byddwch chi'n gyfrifol amdano

 

  • Byddwch yn rheoli tîm perfformiad uchel, gan gyflawni cynlluniau mân waith yn ddiogel ac yn effeithlon.
  • Yn gyfrifol am Iechyd, Diogelwch a Lles y Tîm.  Gweithredu'r fframwaith rheoli, y gweithdrefnau a'r cynllun monitro ar gyfer y tîm. Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion statudol a deddfwriaethol.
  • Cyfrifoldebau rheoli llinell ar gyfer nifer o Gydlynwyr Prosiect, gan gynnwys rheoli perfformiad, hyfforddiant a datblygiad, a choetsio swyddogion sy’n adrodd yn uniongyrchol i chi yn unol â pholisïau AD, gan gynnwys ymgysylltu â phobl.
  • Sicrhau gweithredu contract, cadwyn gyflenwi a systemau masnachol Dŵr Cymru i sicrhau cysondeb.
  • Bydd rôl y Rheolwr Contractau yn cynnwys cyflawni rôl Rheolwr Prosiect fel y'i diffinnir o dan NEC.
  • Cydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch Dŵr Cymru, sicrhau bod pob prosiect yn cydymffurfio â'r Rheoliadau CDM diweddaraf a helpu i nodi technegau adeiladu arfer da/arfer gorau, ac arfer gwael lle bo'n berthnasol o dan y weithdrefn adrodd ‘achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd’.
  • Sicrhau bod y busnes yn gallu bodloni ei ofyniad ar gyfer cyflawni prosiectau yn unol â'r CDM diweddaraf a rheoliadau cysylltiedig eraill i sicrhau’r perfformiad gorau. Bydd y rôl hon yn arwain Cynllunio Gweithredu i sicrhau cymaint o effeithlonrwydd â phosibl i alinio â'r gost darged gymeradwy a fydd yn galluogi cyflawni rhaglen fuddsoddi Dŵr Cymru.
  • Monitro ac olrhain cyflawniad effeithiol a gallu cymryd camau priodol os bydd llithriad yn y rhaglen a rheoli costau contractwyr o dan amodau contract NEC.
  • Lle bo'n briodol, gweithredu datrysiadau prosiect cynaliadwy ac arloesol, gan weithio tuag at dargedau effeithlonrwydd a lleihau ôl troed carbon Dŵr Cymru.
  • Arwain ar ymchwiliadau i ddigwyddiadau ar gyfer unrhyw faterion lle bu methiant gwasanaeth, gwneud argymhellion, a sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cwblhau i amserlenni y cytunwyd arnynt.  Bydd hyn yn cynnwys datrys problemau ac atebion.
  • Sicrhau bod buddiannau Dŵr Cymru yn cael eu diogelu bob amser a bod risgiau i'r busnes yn cael eu lleihau drwy sicrhau bod risgiau'r prosiect yn cael eu nodi, eu deall, eu gwerthfawrogi a'u dyrannu'n gywir a rheoli'r broses rybuddio cynnar a lleihau risg.
  • Ysgogi adolygiadau gan gymheiriaid prosiectau er mwyn sicrhau bod buddiannau Dŵr Cymru yn cael eu cynrychioli wrth ddewis ateb a bod unrhyw risgiau busnes yn cael eu deall.
  • Cynorthwyo gyda datrys problemau rhwng trydydd partïon a Dŵr Cymru.
  • Sicrhau bod yr holl ddogfennau a gweithdrefnau trosglwyddo'r prosiect yn cael eu cwblhau cyn cyhoeddi Tystysgrifau Terfynol, rheoli'r broses arfarnu ôl-brosiect ac ymgymryd â dadansoddiad 'achos sylfaenol' priodol ar ôl cwblhau'r cynllun er mwyn sicrhau bod proses wella barhaus yn cael ei chymhwyso.
  • Bod yn rhan o rota wrth gefn Rheolaeth Arian ar gyfer gweithrediadau – bod yn atebol yn unol â'r llawlyfr ymateb i ddigwyddiadau Dŵr Cymru a gweithdrefnau digwyddiadau.

 

 

Amdanoch chi 

 

  • Cymhwyster Proffesiynol ac Addysg i lefel Gradd neu gyfwerth
  • Tystysgrif NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Adeiladu
  • Profiad gweithredol mewn amgylchedd rheolaeth a rheoli gwaith gyda'r gallu i ddangos hanes o lwyddiant
  • Gweithredu technegau arfer gorau ar gyfer rheoli Mân Waith i ysgogi gwerth am arian
  • Profiad helaeth o reoli prosiectau, arwain tîm mawr neu debyg wrth ddarparu Atebion cyfalaf gwerth uchel
  • Profiad a dealltwriaeth o Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys Rheoliadau CDM
  • Sgiliau cyfathrebu cryf a'r gallu i fynd â phobl ar bob lefel trwy sefyllfaoedd sy'n ymwneud â pherfformiad, materion gweithdrefnol a digwyddiadau
  • Gallu arwain adolygiad digwyddiad ar gyfer perfformiad i ddod i gasgliad gwybodus a gwirioneddol
  • Yn frwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth Iechyd a Diogelwch Medrus
  • Gwybodaeth fanwl o brosesau IMS mewn perthynas â phrosiectau Trwsio a Chynnal a Chadw a swmp gwaith
  • Ystod eang o sgiliau cyflawni prosiectau ynghyd ag ymwybyddiaeth fasnachol gref ar gyfer Gweithgareddau Trwsio a Chynnal a Chadw
  • Gwneud penderfyniadau ac ymwybyddiaeth o faterion busnes ehangach, polisïau corfforaethol a'r gallu i ddarparu atebion cost-effeithiol o fewn amserlenni targed
  • Datrys Risg a Phroblemau: Rheoli risgiau, amrywiadau ac anghydfodau contract, gan uwchgyfeirio problemau cymhleth
  • Sgiliau dadansoddol lefel uchel i sicrhau cwmpasu effeithiol a chyflwyno atebion effeithiol i broblemau cyflawni gweithredol
  • Sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm rhagorol gan gynnwys tensiynau neu sefyllfaoedd lle ceir gwrthdaro
  • Y gallu i weithio i derfynau amser rheoleiddiol tynn
 

 

Da i'w wybod

 

  • Gofyniad i fod ar rota wrth gefn
  • Darperir lwfans car
  • Os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â andrew.bowen@dwrcymru.co

 

Buddion

 

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

 

Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)

Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn

Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr

Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim

Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd

Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir

Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr

Cynllun beicio i'r gwaith

Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru

Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle

Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein

Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos

Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

 

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

 

Pwy ydym ni


 

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

 

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

 

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

 

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

 

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.