Technegydd Cynnal a Chadw
Dyddiad: 18 Hyd 2026
Lleoliad: Casnewydd, Cymru, GB, NP18 1HT
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9339 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Gweithrediadau |
| Cwmpas Cyflog | £31,395.00 -£35,682.00 |
| Lleoliad | Court Farm |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
- Fel Technegydd Cynnal a Chadw (pwyslais ar systemau mecanyddol), bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys y canlynol:
- Yn y swydd hon i’w chynnal yn y maes, byddwch yn rhan o dîm sy'n gweithio ar weithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer asedau Dŵr Cymru e.e. prosiectau gwella a gwaith cynnal a chadw ataliol, yn ogystal ag ymateb i fethiannau ledled yr ardal.
- Ymchwilio i natur methiannau peiriannau a gwneud gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ac wedi'i drefnu ar yr holl offer sy'n ymwneud â sylfaen asedau Dŵr Cymru er mwyn lleihau methiannau peiriannau.
- Cyflawni gosodiadau tebyg am debyg, adnewyddu a chynorthwyo gyda chomisiynu offer yn ôl manyleb, ar amser ac yn unol â gweithdrefnau'r cwmni.
- Cynnal archwiliad o bartiau sbâr a deunyddiau sydd eu hangen i gwblhau gwaith yn effeithiol, archebu eitemau angenrheidiol trwy eich goruchwyliwr neu yn uniongyrchol oddi wrth gyflenwr.
- Dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni - bod yn atebol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a bod a dyletswydd i ofalu am eich cydweithwyr ac unrhyw un yr effeithir arno gan y gwaith rydych chi'n ei wneud.
- Ymdrin â sefyllfaoedd sydd weithiau’n anodd mewn modd cyfeillgar, cadarnhaol a phroffesiynol, gan ymdrechu i gael datrysiad cyflym.
- Diweddaru gwybodaeth mewn systemau TG amrywiol yn ddyddiol.
- Cysylltu â chontractwyr allanol ynghylch cynlluniau cyfalaf mawr gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac yn effeithlon ac yn cydymffurfio'n llawn â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch a gweithdrefnau’r cwmni.
- Trefnu eich amser eich hun, ymdrin â gwaith arferol gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes.
Amdanoch chi
• Prentisiaeth gydnabyddedig mewn peirianneg fecanyddol/drydanol neu ddeuol a ddyfarnwyd gyda chymhwyster NVQ Lefel 3 neu gymhwyster City & Guilds sydd gyfwerth
• Trwydded yrru lawn
• Profiad o weithio mewn tîm
• Profiad o ddadansoddi gwybodaeth i adnabod problemau posibl
• Profiad ymarferol a gafwyd mewn diwydiant i gefnogi eich prentisiaeth a sicrhau cydymffurfiaeth ac ymlyniad llawn wrth yr holl weithdrefnau Iechyd a Diogelwch
• Gallu cyfathrebu'n dda, gwrando ac ymateb yn briodol i ddatrys problemau
• Yn gallu creu a chynnal rhwydweithiau da gydag adrannau mewnol
• Yn gallu gweithio i ddyddiadau cau tynn, weithiau mewn amgylchiadau anodd
• Ymwybyddiaeth o gyrff rheoleiddio fel Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
• Yn gallu defnyddio pecynnau meddalwedd Microsoft a systemau gweithredol eraill
Werth ei wybod
- Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan ar alwad (1 wythnos allan o bob 6 wythnos), a hefyd yn cymryd rhan mewn 260 awr o amser gwaith wedi'i gynllunio.
- Darperir fan cwmni
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â MATTHEW.JONES5@DWRCYMRU.COM
Buddion
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
- Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
- Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
- Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
- Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
- Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
- Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
- Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
- Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
- Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
- Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
- Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.