Technegydd Cynnal a Chadw

Dyddiad: 18 Hyd 2026

Lleoliad: Casnewydd, Cymru, GB, NP18 1HT

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  9339                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau
Cwmpas Cyflog £31,395.00 -£35,682.00 
Lleoliad Court Farm

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

  • Fel Technegydd Cynnal a Chadw (pwyslais ar systemau mecanyddol), bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys y canlynol:
  • Yn y swydd hon i’w chynnal yn y maes, byddwch yn rhan o dîm sy'n gweithio ar weithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer asedau Dŵr Cymru e.e. prosiectau gwella a gwaith cynnal a chadw ataliol, yn ogystal ag ymateb i fethiannau ledled yr ardal.
  • Ymchwilio i natur methiannau peiriannau a gwneud gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ac wedi'i drefnu ar yr holl offer sy'n ymwneud â sylfaen asedau Dŵr Cymru er mwyn lleihau methiannau peiriannau.
  • Cyflawni gosodiadau tebyg am debyg, adnewyddu a chynorthwyo gyda chomisiynu offer yn ôl manyleb, ar amser ac yn unol â gweithdrefnau'r cwmni.
  • Cynnal archwiliad o bartiau sbâr a deunyddiau sydd eu hangen i gwblhau gwaith yn effeithiol, archebu eitemau angenrheidiol trwy eich goruchwyliwr neu yn uniongyrchol oddi wrth gyflenwr.
  • Dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni - bod yn atebol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a bod a dyletswydd i ofalu am eich cydweithwyr ac unrhyw un yr effeithir arno gan y gwaith rydych chi'n ei wneud.
  • Ymdrin â sefyllfaoedd sydd weithiau’n anodd mewn modd cyfeillgar, cadarnhaol a phroffesiynol, gan ymdrechu i gael datrysiad cyflym.
  • Diweddaru gwybodaeth mewn systemau TG amrywiol yn ddyddiol.
  • Cysylltu â chontractwyr allanol ynghylch cynlluniau cyfalaf mawr gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac yn effeithlon ac yn cydymffurfio'n llawn â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch a gweithdrefnau’r cwmni.
  • Trefnu eich amser eich hun, ymdrin â gwaith arferol gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes.

Amdanoch chi

• Prentisiaeth gydnabyddedig mewn peirianneg fecanyddol/drydanol neu ddeuol a ddyfarnwyd gyda chymhwyster NVQ Lefel 3 neu gymhwyster City & Guilds sydd gyfwerth

• Trwydded yrru lawn

• Profiad o weithio mewn tîm

• Profiad o ddadansoddi gwybodaeth i adnabod problemau posibl

• Profiad ymarferol a gafwyd mewn diwydiant i gefnogi eich prentisiaeth a sicrhau cydymffurfiaeth ac ymlyniad llawn wrth yr holl weithdrefnau Iechyd a Diogelwch

• Gallu cyfathrebu'n dda, gwrando ac ymateb yn briodol i ddatrys problemau

• Yn gallu creu a chynnal rhwydweithiau da gydag adrannau mewnol

• Yn gallu gweithio i ddyddiadau cau tynn, weithiau mewn amgylchiadau anodd

• Ymwybyddiaeth o gyrff rheoleiddio fel  Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

• Yn gallu defnyddio pecynnau meddalwedd Microsoft a systemau gweithredol eraill

Werth ei wybod

  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan ar alwad (1 wythnos allan o bob 6 wythnos), a hefyd yn cymryd rhan mewn 260 awr o amser gwaith wedi'i gynllunio.
  • Darperir fan cwmni 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â MATTHEW.JONES5@DWRCYMRU.COM

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: 

 

 

  • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) 
  • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn 
  • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr 
  • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim 
  • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd 
  • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir 
  • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr 
  • Cynllun beicio i'r gwaith 
  • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru 
  • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle 
  • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein 
  • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos 
  • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.  

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. 

 

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. 

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.