Teitl Swydd - Uwch Reolwr Prosiect Cyfalaf - Ecoleg

Dyddiad: 29 Gorff 2026

Lleoliad: Casnewydd, Cymru, GB, NP10 8FZ

Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Rhif Cais y Swydd                                                  8868                                                                             
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Rheoli Prosiectaut
Cwmpas Cyflog £58,751.00 -£71,972.00 

Lleoliad

Dyddiad cau ceisiadau  

South East Hub

7 Awst 2026 (23:59) 

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Uwch Reolwr Prosiect Cyfalaf – Ecoleg

 

 

Crynodeb

Rydym yn chwilio am weithiwr ecoleg proffesiynol profiadol a gwybodus i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Galluogi Cyflawni Cyfalaf.

Byddwch yn dod â gwybodaeth gref am ddeddfwriaeth ecoleg, methodolegau arolygu ecolegol, gwella a gwrthbwyso bioamrywiaeth, a gofynion trwyddedu perthnasol, gan gynnwys trwyddedu rhywogaethau gwarchodedig. Byddwch yn hyderus yn rheoli blaenoriaethau cystadleuol a chyflawni canlyniadau o ansawdd uchel o fewn amserlenni prosiectau a rheoleiddiol. Mae'r rôl yn cynnwys rheoli prosiectau o'r dyluniad cychwynnol hyd at eu cwblhau, gan gynnwys gweithgareddau caffael a sicrhau bod asedau'n cael eu cyflwyno i'r safonau gofynnol.

 

Cyfrifoldebau Allweddol

  1. Arwain a chefnogi swyddogion sy’n adrodd yn uniongyrchol i chi, gan gynnwys rheoli perfformiad, dysgu a datblygu, coetsio ac ymgysylltu â chyflogeion, yn unol â'r holl bolisïau a gweithdrefnau AD.
  2. Sicrhau bod y busnes yn gallu cyflawni gofynion ar lefel rhaglen yn unol â'r rheoliadau a'r gweithdrefnau cyfredol, i amserlenni y cytunwyd arnynt ac o fewn cyllidebau cymeradwy, gan gefnogi'r gwaith o gyflawni rhaglen fuddsoddi Dŵr Cymru yn llwyddiannus.
  3. Asesu gofynion rhaglen gyfan a phenodol i brosiect, diffinio cwmpas, nodi ac argymell atebion, cyfrannu at weithgareddau dylunio, a goruchwylio ystyriaethau ecoleg, amgylcheddol a bioamrywiaeth ar draws rhaglen waith ddiffiniedig.
  4. Monitro ac olrhain cyflawni rhaglenni, gan gymryd camau priodol i fynd i'r afael ag unrhyw oedi neu risgiau sy'n ymwneud â materion ecoleg, amgylcheddol a bioamrywiaeth.
  5. Sicrhau bod systemau contractau, cadwyn gyflenwi a rheoli masnachol Dŵr Cymru yn cael eu cymhwyso'n gyson.
  6. Cydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch Dŵr Cymru, sicrhau bod pob prosiect a rhaglen yn cydymffurfio â'r Rheoliadau CDM cyfredol wrth hyrwyddo arfer da a chefnogi’r gwaith o adrodd ar ‘achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd’ a meysydd i’w gwella.
  7. Cefnogi'r gwaith o weithredu atebion rhaglenni a phrosiectau cynaliadwy ac arloesol, gan gyfrannu at dargedau effeithlonrwydd a lleihau ôl troed carbon Dŵr Cymru.
  8. Bod yn atebol am gefnogi cyflawni rhaglenni allweddol a phrosiectau arbennig sy'n cynnwys mathau o asedau uwchben y ddaear, o dan y ddaear, neu mathau cyfunol o fewn ardal ddiffiniedig.
  9. Sicrhau bod gofynion buddsoddi yn cael eu cwmpasu'n effeithiol a bod yr atebion gorau posibl yn cael eu canfod, gan gyfrannu at weithgareddau dylunio, prosesau caffael, a chefnogi adeiladu, cyflawni a chomisiynu asedau.
  10. Gweithio ar y cyd â thimau gweithredol, timau dylunio, partneriaid y Gynghrair, cyflenwyr a chydweithwyr ledled Dŵr Cymru i ddeall a mynd i'r afael â heriau perfformiad asedau.
  11. Darparu arbenigedd rheoli rhaglenni a phrosiectau sy'n ymwneud â materion ecoleg, amgylcheddol a bioamrywiaeth, gan gynnig cymorth ac arweiniad i gydweithwyr gweithredol a phartneriaid y Gynghrair pan fo angen.
  12. Diogelu buddiannau Dŵr Cymru drwy sicrhau bod risgiau'r prosiect yn cael eu nodi, eu deall, eu hasesu a'u dyrannu'n briodol, gan gefnogi prosesau rhybuddio'n gynnar a lleihau risg i gadw’r risg i’r busnes mor fach â phosib.
  13. Cydlynu adolygiadau gan gymheiriaid rhaglenni a phrosiectau i sicrhau bod buddiannau Dŵr Cymru yn cael eu cynrychioli wrth ddewis datrysiadau a bod risgiau busnes cysylltiedig yn cael eu deall yn llawn.
  14. Cefnogi'r gwaith o ddatrys materion sy'n ymwneud â thrydydd partïon a Dŵr Cymru.
  15. Sicrhau bod yr holl ddogfennau a gweithdrefnau trosglwyddo prosiect sy'n ymwneud â materion ecoleg, amgylcheddol a bioamrywiaeth yn cael eu cwblhau'n gywir ac yn brydlon.

Amdanoch chi

Rydym yn chwilio am rywun sy'n dod â chyfuniad o arbenigedd technegol, cydweithio ac angerdd dros gyflawni canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.

 

Cymwysterau Hanfodol

  • Cymhwyster lefel gradd, cymhwyster proffesiynol, neu brofiad perthnasol cyfatebol.

 

Profiad Hanfodol

  • Profiad helaeth o reoli gweithgareddau ecoleg, amgylcheddol a bioamrywiaeth o fewn rhaglenni sylweddol, cymhleth neu brosiectau buddsoddi cyfalaf.
  • Dealltwriaeth gref o arferion ecoleg, amgylcheddol a bioamrywiaeth, ynghyd â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch perthnasol, gan gynnwys Rheoliadau CDM.
  • Profiad o weithio gyda thimau amlddisgyblaethol a rhanddeiliaid i gyflawni canlyniadau prosiect llwyddiannus.

 

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Wedi ymrwymo i ddarparu canlyniadau rhagorol i gwsmeriaid a'r amgylchedd.
  • Gwybodaeth gadarn o ecoleg, ystyriaethau amgylcheddol a bioamrywiaeth yn y sector dŵr neu ddiwydiant rheoledig tebyg.
  • Sgiliau cryf o ran gwneud penderfyniadau, gyda'r gallu i gydbwyso blaenoriaethau busnes, risgiau, costau ac amserlenni.
  • Sgiliau dadansoddol a datrys problemau rhagorol, gyda'r gallu i ddatblygu atebion ymarferol ac effeithiol.
  • Sgiliau cryf o ran cyfathrebu a meithrin perthynas, gyda'r gallu i weithio ar y cyd ar draws timau a gyda phartneriaid allanol.
  • Yn gallu rheoli blaenoriaethau cystadleuol a chyflawni canlyniadau o ansawdd uchel o fewn dyddiadau cau rheoleiddiol a phrosiectau.

Werth ei wybod

Cyflwynwch eich CV a llythyr cais ategol sy'n amlinellu eich profiad perthnasol gan esbonio pam mae gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a gyflwynir heb y ddwy ddogfen.

 

Dyddiadau cyfweld arfaethedig: wythnos sy'n dechrau: 17 Awst 2026 a 24 Awst 2026.

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau, efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar yr holl wiriadau yn cael eu bodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

 

 

Sylwer, efallai y byddwn yn cau'r rôl hon yn gynt os oes angen. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb.

 

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â: Nicola.Parnell@dwrcymru.com  a rhowch rif adnabod y swydd yn llinell deitl y pwnc.

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: 

 

  • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) 
  • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn 
  • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr 
  • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim 
  • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd 
  • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir 
  • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr 
  • Cynllun beicio i'r gwaith 
  • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru 
  • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle 
  • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein 
  • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos 
  • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.  

 

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. 

 

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. 

 

 

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd. 

 

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth.  Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt.  Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni. 

 

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu. 

 

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo. 

 

 

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY  

© Dŵr Cymru Cyf 2019.