Goruchwyliwr Caffi
Dyddiad: 26 Awst 2026
Lleoliad: Hwlffordd, Cymru, GB, SA63 4RR
Cwmni: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
| Rhif Cais y Swydd | 9098 |
| Math o Waith | Parhaol |
| Swyddogaeth y Swydd | Hamdden a Chroeso |
| Cwmpas Cyflog | £21,680 am 29.6 awr yr wythnos Band 3 (£27,100 y flwyddyn, pro rata) |
|
Lleoliad Dyddiad cau ceisiadau |
Llys y Fran Sir Benfro (SA63 4RR) 23:59 ar 01 Medi 2026 |
Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Goruchwylio'r gegin ac ardaloedd y bwyty i sicrhau bod gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn cael ei ddarparu wrth gynnal amgylchedd diogel i bawb ar y safle.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Ar gyfartaledd, un diwrnod yr wythnos yn cyflawni rôl Rheolwr ar Ddyletswydd, gan gymryd cyfrifoldeb arweiniol am gydlynu'r safle cyfan fel rhan o'r tîm rheoli ehangach.
- Sicrhau Iechyd a Diogelwch pob ymwelydd a chwsmer sy'n defnyddio cyfleusterau'r safle, cymryd rhan weithredol yn monitro diogelwch, sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu diweddaru’n gyson a bod pob ddigwyddiad a damwain yn cael eu cofnodi yn unol â gweithdrefnau gofynnol y cwmni.
- Ynghyd â Rheolwr y Caffi, archebu holl gyflenwadau’r gegin a stoc i'w hailwerthu gan gyflenwyr cymeradwy.
- Cynnal a chadw holl gofnodion HACCP y gegin bob amser ac i'r safon ofynnol.
- Paratoi, coginio a gweini prydau bwyd, rheoli a threfnu cynorthwywyr y caffi i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel.
- Goruchwylio a nodi anghenion hyfforddi cydweithwyr i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r hyn a gynigir fel profiad i gwsmeriaid. Sicrhau bod y gwasanaeth yn y caffi a'r ardal fanwerthu yn cael ei gynnal i safon uchel.
- Ymgysylltu â chwsmeriaid fel llysgennad Dŵr Cymru.
- Cynnal y safonau hylendid bwyd, cynnal a chadw a thaclusrwydd ardaloedd y gegin, y bwyty a manwerthu yn unol â gweithdrefnau diogelwch bwyd Dŵr Cymru.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan Reolwr y Caffi i ddiwallu anghenion y busnes.
- Cefnogi recriwtio cynorthwywyr Caffi a rheoli gofynion hyfforddi a sefydlu pob cydweithiwr newydd i sicrhau eu bod yn gwbl gymwys i weithio yn y ganolfan ac oddi yno.
- Dirprwyo ar gyfer Rheolwr y Caffi yn ei absenoldeb.
- Ymgymryd â rôl Rheolwr Dyletswydd ar amserlen gydag aelodau allweddol eraill o'r tîm.
Amdanoch chi
Gofynion Hanfodol
Cymwysterau
- Ardystiad Hylendid Bwyd Lefel 3 cyfredol o leiaf
- Gwiriad DBS boddhaol
Profiad
- Profiad iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd ymarferol mewn atyniad ymwelwyr neu amgylchedd manwerthu neu fwyty
- Profiad o weithio gyda'r cyhoedd
Gwybodaeth a Sgiliau
- Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd
- Profiad goruchwylio ym maes arlwyo a cheginau masnachol
- Gwybodaeth neu arbenigedd gwasanaeth cwsmeriaid ym maes arlwyo/manwerthu
- Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun
- Ymwybyddiaeth fasnachol
- Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg
Werth ei wybod
Patrwm Gweithio
Mae'r rôl hon wedi'i chontractio ar gyfer 29.6 awr yr wythnos, a'i gweithio dros bedwar diwrnod, 7.4 awr y dydd, drwy gydol y flwyddyn.
Gellir gweithio pedwar diwrnod gwaith penodol a chytuno arnynt ymlaen llaw, ac rydym yn cynnig hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer anghenion unigol, yn amodol ar ofynion y busnes. Mae'r rôl yn gofyn eich bod ar gael i weithio yn ystod gwyliau ysgol, penwythnosau a gwyliau banc, gyda disgwyliad o weithio tua un diwrnod bob penwythnos ar gyfartaledd. Efallai y bydd angen hyblygrwydd ychwanegol yn ystod cyfnodau gweithredol arbennig o brysur.
Pan fydd oriau ychwanegol yn cael eu gweithio y tu hwnt i ofynion y contract, bydd gan weithwyr hawl i amser o’r gwaith yn lle tâl (TOIL) yn unol â gweithdrefnau'r cwmni.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl.
- Bydd angen gwiriad DBS boddhaol cyn yr apwyntiad.
- Oherwydd natur ein diwydiant, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus ddarparu geirda boddhaol, cwblhau asesiad meddygol ar ôl y cynnig, a chael gwiriad cofnodion troseddol Datgeliad Sylfaenol. Efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol neu gymeradwyaeth diogelwch ar rai rolau. Darperir rhagor o fanylion ar ôl i chi derbyn cynnig.
Trafodaeth Anffurfiol
Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Jacob Porter yn Jacob.Porter@dwrcymru.com, gan ddyfynnu Cod Swydd 9098 fel pwnc.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.