Prentisiaid

Mae ein rhaglen i brentisiaid yn cynnig llu o gyfleoedd ar draws ein timau Dŵr a Dŵr Gwastraff yn ogystal â'n Canolfan Gysylltu, a'n Gwasanaethau Cymorth.

Yn ystod eich prentisiaeth, byddwch chi'n gweithio gyda phobl angerddol eraill tebyg i chi i ddarparu dŵr glân ar gyfer ein cwsmeriaid, a chludo’u dŵr brwnt a charthffosiaeth i ffwrdd i'w drin cyn ei ddychwelyd i'n hamgylchedd prydferth.

Wrth ymuno â'n tîm, byddwn ni'n clustnodi bydi ar eich cyfer a fydd yn eich helpu i ddysgu sgiliau newydd ac i ennill cymwysterau ffurfiol. Cewch hyfforddiant cyflwyno a hyfforddiant ychwanegol sy'n gyson â'r rôl y byddwch yn ei chyflawni hefyd.

Mae gofynion, lleoliad a hyd ein prentisiaethau'n amrywio yn dibynnu ar y rhaglen o dan sylw, a byddwn ni'n gweithio gyda nifer o ddarparwyr hyfforddiant penigamp i ddarparu prentisiaethau hefyd.

Rydyn ni’n falch iawn o gynnig cyflog cychwynnol o £23,142* ar gyfer ein holl brentisiaethau a rhaglenni hyfforddi.

  • Os ydych chi’n ystyried prentisiaeth, rydyn ni’n gwybod y bydd llawer o gwestiynau gennych.  Dyma ambell i beth allweddol y dylech eu cadw mewn cof wrth ymgeisio:
  • Bydd pob rôl unigol yn gofyn am gymwysterau penodol, ond bydd pob un yn gofyn am o leiaf TGAU gradd C neu’n uwch neu gymwysterau cyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg.
  • Mae ymgeisio ar gyfer ein rhaglen prentisiaethau fel ymgeisio am un o’n swyddi, felly bydd angen i chi uwchlwytho CV a llythyr esboniadol i’n porth gyrfaoedd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi siarad am eich hun, dweud beth sy’n eich gosod chi ar wahân i’r lleill a pham fod y rhaglen brentisiaeth rydych chi’n ymgeisio ar ei chyfer o ddiddordeb arbennig i chi.
  • Os yw’ch cais yn llwyddiannus, mae’n debygol y cewch eich gwahodd i ganolfan asesu lle bydd angen i chi gael cyfweliad a chymryd rhan mewn gweithgaredd grŵp.

 

*Cywir yn Ebrill 2024.

Cliciwch ar y lluniau isod i ddysgu mwy

Chwiliwch am ein swyddi "Prentis" a "Hyfforddai" gan ddefnyddio'r bar chwilio isod: